Penodi Deon Campws Cangen Mauritius
Dr David Poyton, Deon Campws Cangen Mauritius Prifysgol Aberystwyth
10 Rhagfyr 2014
Mae Dr David Poyton, Darllenydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cael ei secondio i arwain Campws Cangen Prifysgol Aberystwyth ym Mauritius.
Yn rhinwedd ei swydd fel Deon bydd Dr Poyton yn gyfrifol am sefydlu, gweithredu a datblygiad y campws yn ogystal â'i bortffolio academaidd ac ymgysylltu â chymunedau yn Mauritius ac yn rhyngwladol.
Mae’n dechrau yn y rôl yn syth ac yn adrodd yn uniongyrchol i'r Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol, yr Athro John Grattan.
Mae Dr Poyton yn gyfarwydd iawn â’r Brifysgol gan iddo raddio o Adran y Gyfraith a Throsedded gyda Baglor y Gyfraith, Meistr y Gyfraith a Doethuriaeth ar y modd y mae egwyddorion a chysyniadau cyfreithiol yn cael eu defnyddio ym maes masnach electronig.
Dechreuodd weithio i’r Brifysgol yn 1999 fel Tiwtor yn Adran y Gyfraith a Throseddeg a’r Ysgol Rheolaeth a Busnes.
Dywedodd Dr Poyton; “Fy uchelgais yw gweld cynnydd sylweddol ym mhresenoldeb Prifysgol Aberystwyth yn y farchnad ar draws y byd. Mae datblygu rhyngwladol yn allweddol i lwyddiant y Brifysgol yn y dyfodol ac mi fydd y campws ym Mauritius yn ein cynorthwyo i gyrraedd y nod hwnnw.
“Fy mwriad yw adeiladu a meithrin cysylltiadau o fewn y system addysg uwch ym Mauritius yn ogystal a’r llywodraeth, cyrff anllywodraethol masnachol.
“Byddaf yn defnyddio fy mhrofia ar hyd y blynyddoedd o addysgu, ymchwil, arweinyddiaeth a phrofiad rheoli er mwyn sicrhau bod myfyrwyr Campws Cangen Mauritius Prifysgol Aberystwyth yn cael profiad dysgu o'r radd flaenaf ac yn mynd i mewn i'r byd proffesiynol gyda'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gyfrannu a rhagori. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle hwn.”
Bydd y campws cangen yn dechrau addysgu ar 16 Hydref 2015 - carreg filltir bwysig yn hanes Prifysgol Aberystwyth a agorodd ei drysau am y tro cyntaf ar 16 Hydref 1872.
Mae'r rhaglenni academaidd arfaethedig ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15 yn raddau BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid; Cyllid Busnes; Rheolaeth Busnes; Rheolaeth gyda’r Gyfraith, Cyfrifeg a graddau LLB yn y Gyfraith a Thema’r Gyfraith. Ar lefel ôl-raddedig, fe fydd MSc mewn Busnes Rhyngwladol, a Chyfrifiadureg Uwch yn cael eu cyflwyno ar y campws.
Mae gwaith adeiladu prif adeilad y campws, sef y rhan gyntaf o’r cynllun i adeiladu campws preswyl modern, bron wedi'i gwblhau ac wedi ei leoli yn Quartier Militaire yng nghanol yr ynys.
O dan y trefniant hwn bydd myfyrwyr sy’n astudio ar gampws Mauritius Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau'r un statws â'u cymheiriaid yn Aberystwyth, ac ar ôl cwblhau eu cyrsiau'n llwyddiannus yn derbyn graddau Prifysgol Aberystwyth.
Byddai'r holl raglenni israddedig ac ôl-raddedig a fyddai’n cael eu cynnig ar Gampws Mauritius yn dilyn yr un prosesau sicrhau ansawdd sy'n cael eu defnyddio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Er mwyn sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth a meithrin perthynas waith agos, bydd staff academaidd a gweinyddol o’r ddau gampws yn cael eu cymell i gydweithio a manteisio ar gyfleoedd i ymweld â treulio amser yn gweithio ar y naill gampws a’r llall.
Bydd staff newydd ar y campws yn cael cyfnod sefydlu yn y Brifysgol a mynediad at weithgareddau hyfforddi lle bo hynny'n bosibl. Bydd staff yn cael eu hannog i wneud Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch sy'n arwain at gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch.
Yn yr un modd, efallai y bydd myfyrwyr sy'n astudio ym Mauritius ac yn dymuno treulio cyfnod o amser yn astudio yn Aberystwyth yn gallu gwneud hynny, ac yn cael cynnig y dewis o fynychu’r seremoni graddio yn Aberystwyth neu Mauritius, wedi iddynt cwblhau eu cyrsiau yn llwyddiannus.
Bydd myfyrwyr sy'n astudio yn Aberystwyth hefyd o bosib yn gallu treulio cyfnod o'u hastudiaethau ym Mauritius, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cofrestru datganiad o ddiddordeb mewn clywed am unrhyw swyddi a fydd yn cael eu hysbysebu gysylltu gyda hr@aber.ac.uk
Dylai darpar fyfyrwyr gysylltu â mauritius.campus@aber.ac.uk
AU50614