Dulliau newydd o ddal pryfed tsetse yn gam ymlaen yn y frwydr yn erbyn Clefyd Cysgu
Dr. Roger Santer
03 Rhagfyr 2014
Mae'r Dr Roger Santer, gwyddonydd a darlithydd Sŵoleg yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi dilyn trywydd hollol newydd i ddeall sut mae pryfed tsetse yn gweld yr abwydau lliw a ddefnyddir i'w dal, a pham maent yn cael eu denu i wahanol liwiau.
Mae darganfyddiadau Santer, a gyhoeddwyr yr wythnos hon yn y cyfnodolyn PLoS Neglected Tropical Diseases, yn helpu i fireinio'r abwydau gweledol a maglu mwy o bryfed tsetse, ac felly yn helpu i reoli'r haint trofannol y mae'r pryfed yn ei ledaenu.
Mae pryfed tsetse yn trosglwyddo'r trypanosomiasis Affricanaidd dynol neu'r 'Clefyd Cysgu' yn yr Affrica is-Saharaidd. Mae'r salwch hwn yn gallu lladd pobl ac mae'n cael ei ledaenu pan fydd pobl yn cael eu brathu gan bryf tsetse sydd wedi'i heintio. Yn y pen draw mae'r claf yn dioddef haint parasitig yn yr ymennydd a'r freithell (sef pilenni'r ymennydd a llinyn y cefn).
Defnyddir abwydau a maglau lliw i ladd neu ddal y pryfed tsetse, ac mae hynny ymhlith y dulliau mwyaf effeithiol o atal y salwch rhag lledaenu. Serch hynny, mae'n hanfodol bod y dulliau hynny yn cael eu gwella ymhellach er mwyn ymladd yn erbyn y clefyd cysgu.
Mae'r astudiaethau blaenorol ar y pwnc wedi ceisio dod o hyd i'r lliw gorau i'w ddefnyddio am yr abwydau gweledol drwy geisio cysylltu nodweddion adlewyrchu golau'r lliwiau â pha mor ddeniadol ydynt i'r pryfed tsetse. Ond, fel yr esboniodd Santer, “efallai mai edrych ar y lliwiau hyn drwy lygaid y pryf tsetse yw'r allwedd i sicrhau bod yr abwydau hyn mor effeithiol â phosib”.
Mae llygaid pryfed a llygaid pobl yn wahanol o ran y mathau a'r nifer o oleudderbynyddion (y celloedd synhwyro sy'n ymateb i wahanol donfeddi o olau a adlewyrchir oddi ar rywbeth, megis yr abwydau lliw), ac mae hynny'n golygu nad yw pryfed yn canfod lliwiau yn yr un modd â ni.
Torrodd Santer gŵys newydd drwy gyfrifo sut y cafodd pob math o oleudderbynnydd ei ysgogi gan yr abwydau gweledol a ddefnyddiwyd i ddal pryfed tsetse yn y tair astudiaeth faes flaenorol. Yn y bôn, darganfu sut mae'r pryfed yn gweld yr abwydau hyn.
Defnyddiodd Santer yr ysgogiadau ar y goleudderbynyddion a gyfrifwyd ganddo i weld beth oedd yn denu'r pryfed tsetse at yr abwydau gweledol. Darganfuwyd bod modd esbonio'r hyn sy'n denu'r pryfed tsetse drwy fecanwaith syml yn sustem nerfol y pryfed sy'n cymharu ysgogiadau cymharol tri gwahanol fath o oleudderbynyddion.
Dywedodd y Dr Santer “Drwy ddeall y mecanwaith sy'n peri i bryfed tsetse gael eu denu at abwydau gweledol, gallwn ddewis lliwiau i'r abwydau hyn a allai fod yn atynfa gryfach byth. A thrwy wneud hynny dylem allu dal mwy o bryfed tsetse, a sicrhau rheolaeth well ar y modd y mae'r clefyd cysgu yn lledaenu.