Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn cydnabod cyfraniad eithriadol

A J S

A J S "Bill" Williams

02 Rhagfyr 2014

Mae Cymrawd Addysgu er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei enwi yn un o 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol sydd â'r nod o ddathlu’r unigolion hynny, yn y gorffennol a'r presennol sydd wedi helpu siapio cemeg a gwyddoniaeth yn gyffredinol.

Mae’r unigolion eraill i gael eu rhestru yn cynnwys Joseph Priestley, sy'n adnabyddus yn bennaf am ddarganfod ocsigen, Marie Curie a oedd y person cyntaf i dderbyn dwy Wobr Nobel mewn meysydd gwyddonol gwahanol a Michael Faraday, y fferyllydd a'r ffisegydd a gyfrannodd yn sylweddol at yr astudiaeth o electromagneteg a electrocemeg.

Mae A J S "Bill" Williams wedi cael ei gydnabod yn benodol am y gwaith a wnaeth o addysgu mwy na 80,000 o blant ysgol yn ystod ei yrfa hir ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1950-2011.

Ganwyd Bill yn 1920 a dechreuodd ei yrfa fel peilot RAF a hyfforddwr hedfan cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth ym 1950.

Eglurodd, "Ar ôl bron i chwe blynedd yn yr Awyrlu Brenhinol, prifysgol oedd y cyffro deallusol mwyaf. Roedd mis Gorffennaf 1950 yn gofiadwy gan fy mod yn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cemeg o Aberystwyth a hefyd wedi cael fy mhenodi fel darlithydd cynorthwyol mewn Cemeg organig."

"Dechreuais gynnal arddangosfeydd cyhoeddus ac arddangosiadau yn 1969 pan lansiodd Cyfadran y Gwyddorau Wasanaeth Darlith i Ysgolion. Ers hynny, ac ochr yn ochr â chydweithwyr yn Aberystwyth, rhoddais tua 800 o ddarlithoedd ac arddangosiadau i blant ysgol."

Yn 1990 ac mewn ymateb i fenter RSC i godi diddordeb mewn gwyddoniaeth ymhlith plant rhwng 10 a 12 oed, a dyfeisiwyd Bill y ddarlith arddangos 'Gwyddoniaeth ac Ynni' ac ymunodd ar daith gan Dr James Ballantine, darllenydd mewn Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Dr Ballantine (1934-2013) hefyd wedi cael ei restru fel un o'r 175 o Wynebau Cemeg. Yn Gemegydd rhagorol, roedd gan Dr Ballantine yrfa drawiadol fel athro, academaidd ac ymchwilydd ac mae’n sefyll allan fel hyrwyddwr gydol oes a chyfathrebwr o gemeg.

Cafodd 175 o Wynebau Cemeg ei lansio gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg (RSC) yn 2012 fel ffordd o ddathlu eu pen-blwydd yn 175 oed ym mis Chwefror 2016.

Bydd y RSC yn dangos proffil 175 o wyddonwyr gwahanol sy'n cynrychioli amrywiaeth yn ei ystyr ehangaf.

Yr amcan yw dathlu amrywiaeth o unigolion yn y gymuned sydd wedi helpu siapio'r diwydiant a nodi modelau rôl a llysgenhadon ar gyfer cynhyrchu fferyllwyr yn y dyfodol.

I gydnabod ei wasanaeth i wyddoniaeth, i bobl ifanc ac i'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol, mae Bill wedi derbyn MBE, Gwobr Ddarlith Michael Faraday, Medal Efydd B.D. Shaw (Prifysgol Nottingham) a'r Fedal Arian RSC.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar gael ar broffil Bill ar y wefan RSC: http://www.rsc.org/diversity/175-faces/all-faces/ajs-bill-williams-mbe-frsc-0

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y 175 o Wynebau Cemeg yma: http://www.rsc.org/diversity/175-faces/

AU51414