Lansio Partneriaethau Newydd Ddyfodiaid Pwllpeiran

02 Rhagfyr 2014

Cyhoeddwyd Partneriaethau Newydd Ddyfodiaid Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran Prifysgol Aberystwyth heddiw, Dydd Mawrth yr 2il o Ragfyr yn y Ffair Aeaf.

Mae'r Partneriaethau yn cynnig cyfle unigryw i hyd at ddau ffermwr gyda rhywfaint o brofiad o reoli fferm fynydd da byw, i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu rhaglenni ymchwil ucheldir gyda'r Athrofa a'i hymchwilwyr.

Dywedodd Nigel Scollan, Athro Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn IBERS; “Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda ni i ymchwilio i ac i arddangos datblygiadau arloesol newydd mewn amaethyddiaeth yr ucheldir, ac i adnabod a gwneud y gorau o fentrau gwledig newydd a chyfleoedd busnes sy'n seiliedig ar y tir.

“Mae heriau diogelwch bwyd, cynhesu byd-eang a gwarchod bioamrywiaeth yn gofyn am well defnydd a defnydd gwybodus o'r ucheldiroedd drwy ddatblygu planhigion newydd a systemau anifeiliaid.

Bydd dulliau arloesol, a yrrir gan wyddoniaeth yn cael eu datblygu er mwyn ateb yr heriau hyn, a mae IBERS mewn sefyllfa eithriadol o dda i gynnig cyfraniad sylweddol i agenda ucheldiroedd y DG.”

Dywedodd Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o gefnogi ffermio mynydd yng Nghymru trwy ymchwil a hyfforddiant. Mae mentrau fel Partneriaethau Newydd Ddyfodiaid Pwllpeiran yn tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i gefnogi'r sector amaethyddol drwy ymchwil a fydd yn sail i'w datblygiad yn y dyfodol.”

Mae'r Partneriaethau Newydd Ddyfodiaid wedi cael eu datblygu'n benodol i helpu newydd-ddyfodiaid i mewn i'w busnes ffermio eu hunain, a bydd yn cael ei gynnig i ymgeiswyr llwyddiannus yn gynnar yn 2015 gyda Tenantiaeth Fferm Busnes (FBT) yn weithredol o 1 Medi 2015 ar gyfer cyfnod o 5 mlynedd.

Mae ceisiadau ar gyfer ystod o raglenni ymchwil newydd arloesol ar waith, a fydd yn defnyddio'r tir ym Mhwllpeiran yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Mae amrywiaeth o weithgareddau ymchwil yn cael eu rhagweld a all gynnwys sefydlu cnwd a chadwraeth, cnydio amgen, pori da byw a chynhyrchiant, bioamrywiaeth, a meysydd eraill o waith ymchwil sy'n berthnasol i'r Ucheldir.

Mae'r llwyfan yn cael ei ddatblygu gan IBERS Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth buddsoddiad sylweddol gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol).

Bu Pwllpeiran yn ganolfan ymchwil ers y 1930au, gan weithio i wella hyfywedd ffermio ucheldiroedd Cymru.

Gyda phwyslais cynyddol ar ansawdd a tharddiad bwyd, a phwysau i reoli tir mewn ffordd sy'n sensitif i'r amgylchedd, mae gan wyddoniaeth amaeth ran allweddol i'w chwarae.

Croesawodd y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd Rebecca Evans y cyhoeddiad; “Rwyf wrth fy modd i ddod i lansiad Partneriaethau Newydd Ddyfodiaid Pwllpeiran yn y Ffair Aeaf eleni. Mae adroddiad diweddar Malcolm Thomas ‘Denu Cenhedlaeth Newydd o Ffermwyr’ yn awgrymu y gallai ffermio wneud mwy i gyflwyno ei hun fel dewis gyrfa cyffrous, gwerth chweil a phroffidiol er mwyn atal y dirywiad o bobl ifanc a newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant. Yr wyf yn sicr y bydd prosiectau fel hwn yn gwneud hynny drwy gyfrannu at ddatblygu ymchwil ucheldir bywiog yma yng nghanolbarth Cymru, ac i hyrwyddo sector amaethyddol yng Nghymru sydd yn gyfoes, yn gynaliadwy a gwydn. "

Mae Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran yn anelu at ganolbwyntio ar gyfleoedd er lles y gymuned ffermio ucheldir ledled y DG a thu hwnt i’r dyfodol.

Mae ucheldiroedd yng Nghymru yn cwmpasu 80,000 o hectarau, a mae’r adnodd naturiol hwn yn darparu gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys dŵr, bwyd, tanwydd, dal a storio carbon, cynefinoedd bywyd gwyllt, hafanau bioamrywiaeth, lliniaru llifogydd a mannau hamdden.

Bydd Llwyfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran yn gweithredu fel catalydd unigryw i sbarduno adnoddau IBERS a darparwyr ymchwil eraill drwy Brydain i ddod o hyd i ddatrysiadau i heriau sy’n cynnwys:

• Systemau ffermio sy’n ecogyfeillgar ac sydd hefyd yn sicrhau incwm cynaliadwy i ffermwyr.

• Dulliau o feincnodi cynhyrchu cynaliadwy a rhoi gwerth ar fioamrywiaeth yn yr ucheldir.

• Cadwyni cyflenwi bwyd lleol cynaliadwy sy’n caniatáu i gynhyrchion y gellir eu holrhain ac sydd o stoc adnabyddus gael eu cyflenwi i gwsmeriaid.

• Cynhyrchion â gwerth ychwanegol sy’n defnyddio datblygiadau gwyddonol cyfredol i ganiatáu i ffermwyr ddarparu cynhyrchion sy’n cwrdd â gofynion uchel i’r gadwyn gyflenwi.

• Systemau cynhyrchu anifeiliaid sy’n lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy gynnwys  elfennau modern arloesol o ran bwydo, rheoli a geneteg.

• Offerynnau rheoli sy’n caniatáu i amaethyddiaeth yr ucheldir gael ei chynllunio a’i rheoli mewn modd sy’n sicrhau bod y manteision yn cael eu cynyddu a bod costau, yn ariannol ac yn amgylcheddol, yn cael eu lleihau.

• Cronfa o dystiolaeth yn sail i’r gwaith o ddatblygu polisïau gwybodus, dilysedig.

Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil gan y BBSRC i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae’n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

AU46014