Allwch chi ddod o hyd i wir gariad ar y Rhyngrwyd?
Dr Martin Graff
13 Tachwedd 2014
Bydd Dr Martin Graff yn trafod chwilio am gariad ar y rhyngrwyd, atyniad rhwng pobl a charwriaethau cudd rhithwir mewn cyfarfod rhanbarthol o Gymdeithas Seicolegol Prydain sy’n cael ei drefnu gan gangen Aberystwyth ar y pwnc ‘Allwch chi ddod o hyd i wir gariad ar y Rhyngrwyd? ...a phethau eraill am ramant ar-lein’
Cynhelir y sgwrs ar nos Fercher 26 Tachwedd, 2014 am 6 yr hwyr ym mar Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth.
Bydd y sesiwn yn trafod materion sy'n ymwneud â chwilio am gariad ar y rhyngrwyd a bydd Dr Graff hefyd yn rhoi rhywfaint o gyngor ffeithiol ar sut i adeiladu proffiliau ar wefanau chwilio am gariad ar lein a sut i fynd ati i feithrin perthynas arlein gyda phartner posibl.
Bydd y sgwrs yn tynnu ar astudiaethau empirig cyfredol ar garwriaethau ar-lein ac effaith absenodeb swildod tra’n cyfathrebu ar-lein. Mae'r effaith hwn yn awgrymu bod pobl yn datgelu gwybodaeth bersonol yn gynt mewn amgylcheddau ar-lein.
Mae Dr Graff yn Ddarllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'n Gymrawd Cyswllt gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain ac yn Seicolegydd Siartredig. Mae wedi gwneud gwaith ymchwil ar brosesau gwybyddol mewn dysgu ar y we, gwahaniaethau mewn sut mae unigolion yn mordwyo o un wefan i’r llall, rhyngweithio ar-lein a sut mae carwriaethau ar-lein ac oddi-ar-lein yn ffurfio ac yn dod i ben.
Mae hefyd wedi gwneud ymchwil ym meysydd perswâd ac absenodeb swildod ar-lein, ac wedi goruchwylio sawl doethuriaeth yn y maes hwn.
Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Addysg Israddedig Cymdeithas Seicolegol Prydain sy'n goruchwylio'r modd y mae rhaglenni gradd Seicoleg ym Mhrifysgolion Prydain yn cael eu rhedeg.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. I fynychu, archebwch le yma: http://www.bps.org.uk/truelove.
AU45314