Ychydig dan draean o boblogaeth Lloegr yn gwneud ymarfer corff

Dr Chris Beedie

Dr Chris Beedie

12 Tachwedd 2014

Mae adroddiad gan ukactive sydd wedi ei gyd-ysgrifennu gan Dr Chris Beedie o Brifysgol Aberystwyth yn dangos bod 29% o bobl yn Lloegr yn cael eu hystyried yn gwneud ymarfer corff.

Yn wir, bwrdeistref Newham yn Llundain a gynhaliwyd y Gemau Olympaidd yn 2012, yw'r lle mwyaf anactif pan yn gwneud ymarfer corff yn Lloegr, gyda 39% o drigolion yn anweithgar.

Gwnaeth Dr Beedie, darllenydd mewn Seicoleg Chwaraeon, gynnal yr ymchwil hwn gyda’r sefydliad nid-er-elw ukactive ac fe fydd yn cyflwyno'r canfyddiadau yn Uwchgynhadledd Genedlaethol ukactive 2014 ynghyd â Dr Justin Varney, Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Lles Oedolion yn Iechyd y Cyhoedd Lloegr.

Canfuwyd bod tua phedwar o bob 10 o oedolion yn Newham yn methu â gwneud hyd yn oed 30 munud o ymarfer corff cymedrol ei ddwysedd yn ystod yr wythnos. Mae hyn er gwaethaf addewid y llywodraeth i ddefnyddio'r Gemau i greu etifeddiaeth barhaol o ffitrwydd.

Yn gyffredinol, roedd 29% o bobl yn Lloegr yn cael eu hystyried yn anactif yn gorfforol, sef yn gwneud llai na 30 munud o ymarfer corff cymedrol, megis beicio neu gerdded yn gyflym, yr wythnos.

Gan gynnwys Newham, mae 13 allan o'r 15 o awdurdodau lleol lleiaf gweithgar yn ardaloedd sydd wedi cael eu hamddifadu.

Mae’r rhanbarthau gyda'r record orau o weithgaredd ymarfer corff yn tueddu i fod yn fwy cefnog - daeth Richmond upon Thames i’r brig gyda 84% o'i thrigolion yn gwneud y swm lleiaf o ymarfer corff neu fwy.

Edrychodd ukactive ar 150 o awdurdodau lleol yn Lloegr ar gyfer yr astudiaeth. Mae'n dweud nad oedd y canlyniadau yn dda neu’n ddrwg o ran perfformiad wrth ddelio gyda bobl sy'n gorfforol anactif - mae Newham wedi addo un o'r buddsoddiadau mwyaf y wlad, £2.1m yn 2014-15.

Mae data yn dangos bod mwy na 70% o gynghorau wedi codi eu cyllideb a ddyrannwyd ar ymarfer corff. Fe wnaeth cynghorau ddyrannu 4% o'u grant iechyd cyhoeddus i fynd i'r afael ag anweithgarwch yn 2014-15 o gymharu â 2% yn 2013-14.

Eglurodd Dr Beedie, "Mae'r ffaith bod gan yr awdurdod lleol lle mae'r Ganolfan Olympaidd wedi ei leoli, y lefelau isaf o fod yn gorfforol anactif, yn dangos yn amlwg y gwrthgyferbyniad rhwng cyllido chwaraeon elitaidd a realiti lefelau anweithgarwch canran sylweddol o'r boblogaeth.

"Mae'r data yn dangos yn glir bod yn rhaid i bob asiantaeth sy'n ymwneud â chyflwyno etifeddiaeth y Gemau Olympaidd, yn ogystal â'r holl bobl hynny sydd â diddordeb mewn iechyd y cyhoedd ehangach, angen gweithio'n galetach er mwyn sicrhau bod lefelau anweithgarwch yn cael eu lleihau."

Bydd Uwchgynhadledd Genedlaethol ukactive 2014 yn cael ei gynnal drwy'r dydd ar ddydd Iau 13 Tachwedd yn y Ganolfan Gyngres yn Llundain. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Mae arbenigwyr yn argymell oedolion i wneud 150 munud o weithgarwch cymedrol dros gyfnod o wythnos ar gyfer iechyd da.

AU49314