Dr Ayla Göl i gadeirio dadl CEFTUS
Dr Ayla Göl
24 Hydref 2014
Bydd Dr Ayla Göl o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cyd-gadeirio dadl yn San Steffan a gynhelir gan y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Twrci (CEFTUS) ar y pwnc 'Twrci, y Cwrdiaid a'r Argyfwng yn y Dwyrain Canol'.
Cynhelir y ddadl heddiw, dydd Llun 27 Hydref, am 7yh yn Ystafell Bwyllgor 12 Tŷ'r Cyffredin.
Ymunodd Ayla â’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 2005 ac mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar Astudiaethau Islamaidd, cenedlaetholdeb, gwleidyddiaeth hunaniaeth, dadansoddi polisi tramor a gwleidyddiaeth ôl-drefedigaethol.
Bydd y Farwnes Hussein-Ece o’r Democratiaid Rhyddfrydol a chyn gynghorydd yn Hackney yn cyd-gadeirio’r drafodaeth.
Mae'r ddadl yn cael ei chynnal gan yr AS Llafur dros Stalybridge a Hyde, Jonathan Reynolds.
Mae'r ddadl yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol rhwng Syria a Thwrci fel rhan o'r tirlun geo-wleidyddol cyfredol ehangach yn y Dwyrain Canol. Mae Twrci yn parhau i fod yn benderfynol o ofyn am hafanau diogel yn Syria i ffoaduriaid a strategaeth i ddisodli al-Assad, yn ogystal â dynodi'r PYD Cwrdeg fel mudiad terfysgol.
Mae swyddogion Syria yn gwrthwynebu ceisiadau Twrci ac mae’r Unol Daleithiau a'r Almaen yn ystyried anfon arfau i ymladdwyr Cwrdaidd. Mae datblygiadau diweddar yn y dref Kobane sydd ar y ffin, yn drysu'r datblygiadau.
Bydd y prif siaradwyr, Bill Park o Goleg Kings a Gareth Winrow, yn dadansoddi'r cysylltiadau rhwng y carfannau rhanbarthol ac yn trafod dyfodol yr argyfwng yn y Dwyrain Canol.
Dylai'r rhai sydd eisiau mynychu'r digwyddiad fynd i wefan CEFTUS neu fel arall danfon e-bost i centreforturkey@gmail.com
AU44714