Lansio Uned Rheoli Prosiectau a Newid

Aelodau staff yr Uned Rheoli Prosiectau a Newid: (chwith i’r dde) Sam Hounsell, Swyddog Cymorth Prosiectau; Julie McKeown, Pennaeth; Debbie Prysor, Uwch Swyddog Prosiect.

Aelodau staff yr Uned Rheoli Prosiectau a Newid: (chwith i’r dde) Sam Hounsell, Swyddog Cymorth Prosiectau; Julie McKeown, Pennaeth; Debbie Prysor, Uwch Swyddog Prosiect.

22 Hydref 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu Uned Rheoli Prosiectau a Newid newydd sy’n cynnig cymorth ar gyfer cynllunio a gweithredu ystod eang o brosiectau o fewn y Brifysgol.

Penodwyd Julie McKeown, gynt o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes i arwain yr Uned, sy’n rhan o Swyddfa Cynllunio, Llywodraethant a Gwybodaeth Rheolaeth Busnes y Brifysgol.

Mae gan Julie gefndir helaeth mewn rheoli prosiectau, ymgynghori busnes a marchnata, ac mae’n Uwch Arholwr ar gyfer y Sefydliad Marchnata Siartredig.

Penodwyd Debbie Prysor yn Uwch Swyddog Prosiect. Ers 2012 bu Debbie yn Gynorthwyydd Personol Gweithredol i’r Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro John Grattan, a’r Cyfarwyddwr Cynllunio Lucy Hodson.

Mae Sam Hounsell, a raddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gynharach eleni, yn ymuno a’r tîm fel Swyddog Cymorth Prosiectau.

Dywedodd Julie McKeown: “Sefydlwyd yr uned hon er mwyn darparu cymorth i gydweithwyr ar draws y Brifysgol gyda’u prosiectau a all amrywio o rai sy’n cymryd ychydig wythnosau i’w cwblhau, i weithgareddau mwy megis datblygiadau cyfalaf, gweithgareddau entrepreneuriaid graddfa-fawr, systemau gwybodaeth ac adolygiadau o brosesau a gweithdrefnau mewnol.

“Rydym hefyd yn darparu cyngor ar bob agwedd ar reoli prosiectau, ac rydym yn gweithio tuag at ddatblygu fframwaith gyffredin ar gyfer rheoli prosiectau ar draws y Brifysgol drwy gynnig Cymorthfeydd Prosiect, y Pecyn Adnoddau Prosiect http://www.aber.ac.uk/en/pgbi/pmcu/pmcu.toolkit/ a sesiynau hyfforddi.

Ceir mwy o wybodaeth am yr Uned Rheoli Prosiectau a Newid ar y wefan sydd newydd gael ei lansio http://www.aber.ac.uk/cy/pgbi/pmcu/

Os ydych am drafod prosiect posibl, cysylltwch â’r Uned Rheoli Prosiectau a Newid ar 01970 622204 neu drwy e-bost.

AU44714