Rhewlifegwyr yn teithio i Antarctica i astudio llynnoedd mawr
Roedd yr Athro Bryn Hubbard yn aelod o brosiect Belissima a fu’n drilio yn Antarctica yn 2010
22 Hydref 2014
Bydd rhewlifegwyr o Brifysgol Aberystwyth yn hedfan allan i Antarctica ar ddechrau mis Tachwedd i astudio’r ffenomen o lynnoedd mawr sydd wedi bod yn ffurfio ar wyneb silffoedd iâ.
Bydd yr Athro Bryn Hubbard a Dr David Ashmore o Ganolfan Rewlifeg yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Abertawe ar silff iâ Larsen C.
Mae Larsen C yn ddwywaith a hanner maint Cymru, ac yn silff iâ hir yn rhan ogledd-orllewinol Môr Weddell, sy'n ymestyn ar hyd arfordir dwyreiniol y Penrhyn Antarctig.
Bydd yr Athro Hubbard a Dr Ashmore yn defnyddio dŵr poeth i ddrilio hyd at 150m i mewn i'r silff iâ sy’n 200m o ddyfnder er mwyn astudio’r haenau rhew sy'n ffurfio Larsen C.
Mae Larsen C yn arwyddocaol i wyddonwyr sy’n ceisio deall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar Antarctica.
Chwalwyd a diflannodd dwy silff iâ arail yn yr ardal, Larsen A a B, ers 1995 ac mae gwyddonwyr yn ceisio deall beth sy’n arwain at hyn.
Y llynnoedd mawr sy’n ffurfio ar wyneb yr iâ yw canolbwynt diddordeb y tîm o Aberystwyth, llynnoedd sy’n ffurfio pan fo’r tywydd yn gynhesach, fel arfer ym mis Ionawr a Chwefror.
Mae’r rhan fwyaf o iâ’r Antarctig yn ffurfio dros gyfnod o rai degawdau wrth iddo gael ei gywasgu gan eira ffres ar yr wyneb.
Fodd bynnag, mae dŵr yn y llynnoedd ar yr wyneb yn rhewi wyneb yn rhewi yn ystod un gaeaf, gan newid dwysedd mewnol a thymheredd y silffoedd iâ yn sylweddol.
Drwy ddrilio i mewn i'r silff iâ, mae'r tîm yn gobeithio gweld i ba raddau mae strwythur y silff iâ wedi cael ei newid gan y llynnoedd sy’n ffurfio ar yr wyneb ac a yw’r llynnoedd yn ffenomen ddiweddar.
Hyd yma, mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil i'r silffoedd Larsen wedi cael ei wneud gan ddefnyddio lloerennau ac nid yw’n ymestyn yn ôl ymhellach na'r 1980au cynnar.
Dylai drilio i mewn i'r iâ ddarparu data sy’n ymestyn yn ôl dros 150 o flynyddoedd i’r tîm o Aberystwyth, yn ôl i ganol y 19eg ganrif.
Bydd yr Athro Hubbard a Dr Ashmore yn gweithio ar y silff iâ tan ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.
Yn ystod y cyfnod hwn byddant yn drilio mewn tri lleoliad, â 60km rhwng pob un. Byddant yn gosod offer mesur tymheredd a fydd yn cael eu gadael ar y safle am flwyddyn ac yn cael eu casglu ym mis Tachwedd 2015, pan fyddant yn dychwelyd i Larsen C.
Wrth siarad cyn y daith, dywedodd yr Athro Hubbard; "Er ei bod yn gymharol hawdd cyrraedd ati, mae’n syndod cyn lleied yr ydym yn gwybod am yr ardal hon o Antarctica ar lawr gwlad. Mae clytwaith o ffurfiau tywyll yn ymddangos ar luniau lloeren bob haf a’n dehongliad yw taw llynnoedd o rew wedi toddi yw'r rhain. Ond, does neb wedi’u hastudio ar lawr; hyd yma nid oes hyd yn oed lun o'r llynnoedd rydym yn credu y byddwn yn eu gweld ar Larsen C.
"Dylai'r data a gawn yn sgil y gwaith hwn gyfrannu at ein dealltwriaeth o sut y mae'r hinsawdd yn newid, pan ymddangosodd y llynnoedd hyn am y tro cyntaf, a’u dylanwad, os o gwbl, ar sut mae’r silffoedd iâ yma yn chwalu."
Drilio
Mae'r dril dŵr poeth a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y tîm yn un cryf a symudol, ac yn edrych fel golchwr pwysedd uchel wedi ei addasu at y gwaith.
Bydd pob twll yn mesur 14cm mewn diamedr ac yn ymestyn hyd at 150m i mewn i'r silff iâ.
Disgwylir i sesiynau drilio gymryd hyd at 2 awr a daw’r dŵr poeth o iâ sydd wedi ei doddi.
Bydd angen 4 tunnell o eira i ddarparu digon o ddŵr poeth ar gyfer pob sesiwn ddrilio, a’r cyfan wedi ei gasglu i danc gwresogi gyda rhaw.
Ar ôl agor, bydd y tîm yn astudio'r gwahanol haenau o iâ drwy ollwng camera i mewn i’r twll, a bydd mesuryddion tymheredd yn cael eu gadael yno am 12 mis.
Ariannu
Mae'r astudiaeth i effaith dŵr tawdd ar sefydlogrwydd a deinameg silffoedd iâ wedi derbyn cefnogaeth gan C3W (Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru) ac wedi ei chyllido gan NERC, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Dan arweiniad yr Athro Adrian Luckman o Brifysgol Abertawe a’r Athro Bryn Hubbard o Brifysgol Aberystwyth, derbyniodd y daith £900,000, gyda £300,000 wedi ei ddyrannu tuag at waith tîm Aberystwyth.
AU41814