Rhaglen fridio ceirch ar restr fer gwobrau busnes

Dr Athole Marshall

Dr Athole Marshall

21 Hydref 2014

Mae tîm bridio planhigion arobryn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wedi ei gynnwys ar restr fer categori Effaith Economaidd ar gyfer Gwobr Partneriaeth Busnes ac Addysg Gwobrau Insider Business 2014 am ei waith ar geirch.

Mae IBERS yn un o bum cystadleuydd yn y categori, sy’n ystyried prosiect neu gynllun sy’n ymwneud â chwmni neu gwmnïoedd ac academydd(ion) a gafodd yr effaith economaidd mwyaf.

Mae mathau o geirch a ddatblygwyd gan IBERS yn cyfrif am 65% o'r holl geirch a ddefnyddir yn y DG bob blwyddyn. Mae ceirch yn cael eu defnyddio'n helaeth ar gyfer eu bwyta gan bobl ac anifeiliaid ac mae’r farchnad yn tyfu tua 5% y flwyddyn.

Amcangyfrifir bod cyfraniad IBERS tuag at y farchnad yn y DG wedi cynhyrchu ychwanegiad gwerth gross (GVA) gwerth mwy na £19 miliwn tuag at economi'r DG yn 2012/13 ac yn cynnal mwy nac 800 o swyddi. (Adrodd BIGGAR Economics 2014)

Dywedodd Dr Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion yn IBERS; "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein cynnwys ar restr fer ar gyfer Insider Business. Mae Rhaglen Bridio Ceirch Prifysgol Aberystwyth a'i rhagflaenwyr wedi bod ar waith yn IBERS ers y 1900au cynnar ac wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno llawer o'r mathau o geirch sy’n gyfarwydd i ddefnyddwyr yn y DG heddiw.

Mae'r mathau yma o geirch yn cael eu datblygu ar y cyd gyda Senova Cyf o Gaergrawnt, partner masnachol hirdymor. Mae cael ein cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn brawf o ymroddiad a thalent y tîm bridio ceirch a'r cydweithrediad â Senova a diwydiant ar draws y gadwyn gyflenwi ceirch.”

Noddir y Gwobrau gan Arloesi, Cyllid Cymru, Prifysgolion Cymru a Chyfreithwyr Hugh James. Bydd y Seremoni Wobrwyo yn cael ei chynnal yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar y 5ed o Dachwedd.

Mae IBERS yn Athrofa arobryn o fewn Prifysgol Aberystwyth. Yn 2014 enillodd cydweithwyr sy'n gweithio ar y prosiect BEACON wobr fawreddog RegioStars y Comisiwn Ewropeaidd, ac enillodd tîm bridio glaswellt IBERS y Wobr Addysg Uwch y Times Higher Eduation 2013 am Gyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg am ei waith ar Laswelltau Siwgr Uchel Aber.

AU46414