Diwrnod Agored yn atyniad teuluol
Y teulu Baker
21 Hydref 2014
Roedd y Diwrnod Agored yn y Brifysgol yn daith o ddarganfod ac ail-ddarganfod i deulu’r Baker’s o Zurich ddydd Sadwrn (18 Hydref).
Roedd Fergus a Veronica Baker sydd yn frawd a chwaer, yn ymweld â'r Adran Ffiseg ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig gyda'r bwriad o astudio Ffiseg a Bioleg yn Aberystwyth.
I rieni Shaun ac Alice (Robinson gynt), roedd yn gyfle i hel atgofion gan fod y ddau yn gyn-fyfyrwyr yn y Brifysgol. Fe astudiodd Shaun, sydd yn wreiddiol o Taunton, Lenyddiaeth Saesneg a Hanes Celf, tra roedd Alice yn ddarllenydd gyda Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, ac yna astudiodd radd Meistr yn y Celfyddydau Gweledol.
Esboniodd Alice: "Mae’n hyfryd dod yn ôl i Aberystwyth a chael penwythnos i ffwrdd, ac i ddangos Fergus a Veronica o amgylch y dref a'r Brifysgol. Fe wnaeth fy ngŵr a minnau gyfarfod yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, felly roedd dod yn ôl yma ar gyfer y Diwrnod Agored heddiw yn arbennig iawn.
"Mae gan Aberystwyth deimlad cymunedol iawn ac mae'n hyfryd bod yn ôl yma, dal i fyny gyda ffrindiau a gweld sut mae'r lle wedi newid."
Gellir cael manylion pellach am sut i ymweld â'r Brifysgol, gan gynnwys Diwrnodau Ymweld ar gyfer ymgeiswyr yma: http://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/open-days/
Y diwrnod agored nesaf fydd y Diwrnod Agored Uwchraddedig ar ddydd Mercher 12 Tachwedd.
AU45814