Gwobr dylunio arloesol i ymchwil o IBERS
Enillwyr BIG (Biodiversity Interest Group) Challenge: (Chwith i’r Dde) Liz Morris, Cyfarwyddwr gyda Marine Ecological Solutions Ltd, Ally Evans, IBERS Prifysgol Aberystwyth a Tony Juniper, amgylcheddwr a siaradwr gwadd BIG Challenge.
17 Hydref 2014
Mae prosiect ymchwil sydd wedi ei arwain gan Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr genedlaethol diwydiant am ymgorffori buddiannau bioamrywiaeth i ddatblygiadau peirianneg.
Mae'r prosiect, a gafodd ei arwain gan y fyfyrwraig PhD o IBERS Ally Evans, yn ymdrech ar y cyd rhwng Ally, Dr Pippa Moore (IBERS), Dr Louise Firth (Prifysgol Southampton, Prifysgol Bangor gynt), Marine Ecological Solutions Ltd, Yr Athro Steve Hawkins (Prifysgol Southampton), Cyngor Sir Gwynedd, cwmni drilio creigiau SMS Cymru, a KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth).
Trefnwyd y gystadleuaeth gan CIRIA, sefydliad dielw sy'n cysylltu gwyddoniaeth gyda'r diwydiant adeiladu. Roedd ei menter BIG (Biodiversity Interest Group) Challenge yn galw ar i ddatblygwyr ymgorffori un gwellhad bioamrywiaeth i mewn i bob datblygiad neu safle adeiladu newydd.
Fel rhan o'i PhD a oedd yn edrych ar amddiffynfeydd arfordirol fel cynefinoedd dirprwyol ar gyfer glannau creigiog naturiol, bu Ally a'i phartneriaid prosiect yn treialu pyllau glan môr artiffisial fel modd o hybu bioamrywiaeth mewn morglawdd gwenithfaen yn Nhywyn, Gwynedd.
Mae'r pyllau glan môr wedi bod yn llwyddiant mawr, gan gynyddu amrywiaeth rhywogaethau'r cynefin artiffisial ac yn cynnal rhywogaethau o bwysigrwydd cadwriaethol. Maent hefyd yr un mor amrywiol a chynhyrchiol â phyllau glan môr naturiol.
Ar adeg pan fo amddiffynfeydd arfordirol caled yn amlhau o amgylch ein harfordiroedd mewn ymateb i foroedd sy’n codi ac sy’n fwy stormus, mae datblygiadau o’r math yma yn hanfodol er mwyn gwrthsefyll yr effeithiau negyddol sylweddol i’r amgylchedd naturiol.
Mynychodd Ally seremoni wobrwyo yng Ngerddi Botanegol Brenhinol Kew ar ddydd Mawrth 14 Hydref, yng nghwmni’r partner diwydiannol Liz Morris (Cyfarwyddwr gyda Marine Ecology Solutions Ltd), i dderbyn y wobr am y "Dyluniad Mwyaf Arloesol" ar ran tîm y prosiect.
Cafodd y dyluniad, a grëwyd yn wreiddiol gan Dr Louise Firth, ganmoliaeth am ei symlrwydd ac arloesedd, a derbyniodd yr astudiaeth achos gydnabyddiaeth am ei chynllun monitor ar gyfer y cyfnod wedi’r adeiladu a’r sylfaen dystiolaeth drylwyr ar gyfer mesur llwyddiant y gwaith.
Dywedodd yr ymgyrchydd amgylcheddol blaenllaw Tony Juniper, yn ei araith “mae’r gwobrau hyn yn mynd i daflu goleuni ar ragoriaeth sydd eisoes yn bodoli, ac unwaith y byddwn yn dechrau dangos beth sy'n bosibl, byddwn yn ennill momentwm.”
Meddai Ally, “Rydym i gyd wrth ein bodd gyda’r cyffro o fewn y diwydiant adeiladu am ein gwaith. Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i godi proffil ein gwaith ymchwil ac mae gennym lawer o bosibiliadau cyffrous ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Gwyddom taw’r ffordd i gael ein syniadau allan yna ac wedi eu gweithredu yw drwy gysylltu â diwydiant, ac felly rydym yn wirioneddol ddiolchgar i CIRIA am greu’r cysylltiadau gwerthfawr hyn”.
Ariannwyd yr ymchwil gan Marine Ecology Solutions Ltd a KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth). Rhan-gyllidwyd KESS gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) drwy Raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.