Shwmae Su’mae
Diwrnod Shwmae Su’mae
15 Hydref 2014
Mae heddiw yn Ddiwrnod “Shwmae Su’mae” – digwyddiad cenedlaethol i hybu defnyddio’r Gymraeg. Nod arbennig y diwrnod yw annog pawb i roi cynnig ar ddefnyddio’u Cymraeg gan ddweud ychydig o eiriau os ydych yn dysgu’r iaith neu os ydych yn siarad Cymraeg yn hyderus i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg!
Bydd gostyngiad o 10% ym mhob un o gaffis y Brifysgol a’r Undeb heddiw i bawb sy’n archebu yn Gymraeg. Bydd cyfres o ddigwyddiadau eraill ledled Campws Penglais. Os oes cyfle gyda chi ewch i’r Piazza amser cinio – o 12.30 ymlaen – fyddwn yn ceisio cynnal Twmpath enfawr (clocsiau a phrofiad ddim yn angenrheidiol).
Mae diwrnodau fel hyn yn bwysig i helpu codi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg – nid yn unig am ei bod hi’n iaith gymunedol fyw yn yr ardal hon ond hefyd oherwydd ymrwymiad y Brifysgol i bolisi dwyieithog ac i gynyddu defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol, yn academaidd ac yn weinyddol.
Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol iawn o hanes nodedig staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn yr ymdrechion dros y degawdau diwethaf i hybu statws cyfartal i’r iaith Gymraeg. Ac mae’r ymdrechion cadarnhaol hynny yn parhau mewn sawl ffordd yn ein gwaith academaidd a gweinyddol trwy Gangen y Coleg Cymraeg a Phwyllgor Strategaeth y Gymraeg. A byddwn hefyd yn barod i fentro mai Aberystwyth sy’n cynnig y profiad Cymraeg gorau i fyfyrwyr yn y Bydysawd!
Helpwch ni felly i ddathlu Diwrnod “Shwmae Su’mae”. Rhowch gynnig ar ddefnyddio eich Cymraeg wrth gyfarch myfyrwyr a chydweithwyr ar lafar neu mewn e-bost neu decst. A rhowch anogaeth bositif i eraill i ddilyn eich esiampl.