Gwobr o Awstralia i werslyfr Seicoleg

Dr Verena Pritchard

Dr Verena Pritchard

14 Hydref 2014

Mae gwerslyfr Seicoleg a addaswyd ar gyfer ei ddefnyddio yn Awstralasia gan Dr Verena Pritchard,  darlithydd mewn Seicoleg o Brifysgol Aberystwyth, wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Cymdeithas Gyhoeddi Addysgol Awstralia.

Cipiodd Life Span Development y wobr am yr Adnodd Dysgu ac Addysgu Trydyddol Gorau.

Cafodd y gyfrol ei hysgrifennu gan John W Santrock ar gyfer cynulleidfa Americanaidd yn y lle cyntaf, a’i haddasu gan Dr Pritchard a 11 o academyddion eraill er mwyn ei gwneud yn berthnasol i fyfyrwyr o Awstralia a Seland Newydd.

Addasodd Dr Pritchard, sy'n darlithio mewn Seicoleg Ddatblygiadol a Hyd Oes, dair pennod ('Datblygiad cymdeithasol-emosiynol mewn babandod, plentyndod cynnar, a phlentyndod canol a hwyr') o'r testun hwn ar gyfer cynulleidfaoedd yn Awstralasia.

Mae Gwobrau Cyhoeddi Cymdeithas Addysgol Awstralia yn dathlu rhagoriaeth ym maes cyhoeddi addysgol i gydnabod a gwobrwyo gwaith cyhoeddwyr addysgol ym mhob sector yn cynnwys Cynradd, Uwchradd, Technegol, Pellach, Galwedigaethol a Thrydyddol.

Dywedodd Dr Pritchard; "Fel awdur a gyfrannodd at y gyfrol, yr wyf yn teimlo'n freintiedig o fod wedi gweithio ar addasu’r testun hwn ar gyfer Awstralasia gyda grŵp o weithwyr proffesiynol uchel eu parch yn eu meysydd a’r cyhoeddwyr McGraw-Hill, ac yr wyf wrth fy modd bod y llyfr hwn wedi ei gydnabod fel adnodd trydyddol o safon."

Wedi iddi gwblhau ei doethuriaeth yn 2007, bu Dr Pritchard yn darlithio ym Mhrifysgol Canterbury, Christchurch, Seland Newydd.

Cyn hynny bu Dr Pritchard yn gweithio fel Cymrawd Ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil Meddygol Canterbury lle derbyniodd Gymrodoriaeth Iechyd Plentyn ar astudiaethau a oedd yn dilyn datblygiad plant a anwyd yn gynamserol, a phlant a allai fod wedi eu heffeithio gan gyffuriau tra yn y groth.

Ymunodd Dr Pritchard ag Aberystwyth yn 2012 ac mae'n gweithio ar ymchwil sy'n asesu effeithiau cyfryngau electronig a chyfathrebu ar ddatblygiad cymdeithasol-emosiynol a gwybyddol.

Sefydlwyd Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth yn 2008 a derbyniodd achrediad Cymdeithas Seicoleg Prydain yn 2012.

AU44114