Aberystwyth, prifysgol Masnach Deg
Peth o’r cynnyrch Masnach Deg sydd ar gael ym mwytai a chafis y Brifysgol
06 Hydref 2014
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn llwyddiannus yn adnewyddu ei statws Masnach Deg yn ddiweddar gyda'r Adnewyddu statws Masnach Deg Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn llwyddiannus yn adnewyddu ei statws Masnach Deg yn ddiweddar gyda'r Sefydliad Masnach Deg.
Gweithiodd y Brifysgol yn agos gydag Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a Chanolfan y Celfyddydau i sicrhau'r statws hwn sy'n cefnogi datblygiad, amodau gweithio a thelerau masnachu teg i ffermwyr a gweithwyr.
Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor dros Wasanaethau Myfyrwyr a Staff ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y statws hwn unwaith eto eleni. Mae ein darpariaeth Masnach Deg yn bwysig er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr o'r angen i sicrhau dyfodol gwell i gynhyrchwyr mewn gwledydd sy’n datblygu.
“Mae ein bwytai a chaffis ar y campws yn gweini te a choffi Masnach Deg ac yn cadw amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd Masnach Deg ac mae'r ddarpariaeth wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Credwn ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i gyflenwi a hyrwyddo cynnyrch Masnach Deg er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus i’r cynnyrch yma.”
Ychwanegodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Jacob Ellis, “Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan ei aelodau, rydym yn falch iawn o fod wedi helpu i sicrhau’r statws Masnach Deg. Mae ein myfyrwyr yn frwdfrydig am fasnachu moesegol ac yn disgwyl i ni i arwain y ffordd o ran cyflawni achrediad ystyrlon sy'n adlewyrchu hyn.”
Bydd yr ardystiad Masnach Deg yn para tan fis Medi 2016.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi sicrhau Gwobr Nod Arlwyo Efydd Bwyd am Fywyd i’w holl fwytai ar y campws ac yn prysur ddod yn safon i’r diwydiant ar gyfer bwyd lleol, cynaliadwy a ffynonellau moesegol.
AU41514