Bywyd yn yr iâ: Pa mor bwysig yw microbau i rewlifoedd?
Dr Arwyn Edwards yn astudio Silff Iâ’r Ynys Las. Llun: Sara Penrhyn Jones
03 Hydref 2014
Mae’r gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth Dr Arwyn Edwards wedi ennill gwobr ryngwladol yng Ngwobrau Microbiomeam ei waith ar ficrobau mewn rhewlifoedd.
Mae Dr Edwards yn ficrobiolegydd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad yn Aberystwyth.
Daw’r wobr yn sgil degawd o waith ymchwil a 3 mis o ymchwil dwys yn ystod Haf 2014 yn y Lasynys, Svalbard, Arctig Sweden a’r Alpau, a rhagor o waith eto i’w wneud yn Ne Georgia.
Mae Gwobrau Microbiome yn darparu cyllid a chydnabyddiaeth i wyddonwyr ifanc eithriadol i gynnal gwaith gwyddonol ym maes ymchwil microbiomau. Microbiom yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cymuned o ficro-organebau mewn amgylchedd penodol.
Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dr Edwards a chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y cyfnodolyn Wiley Interdisciplinary Reviews: Water yn dangos bod tynged y storfeydd dŵr croyw mwyaf ar y Ddaear – sef rhewlifoedd a haenau iâ – wedi’i chysylltu’n agos â bywydau’r bodau byw lleiaf – microbau – sy’n byw y tu fewn iddynt.
Dywedodd Dr Edwards; “Mae llawer o sylw’n cael ei roi i ddyfodol rhewlifoedd a haenau iâ oherwydd eu bod mor sensitif i hinsawdd sy’n cynhesu. Bydd rhewlifoedd a haenau iâ sy’n toddi yn effeithio ar fywoliaethau a sicrwydd bwyd a diod cannoedd o filiynau o bobl. Er enghraifft, efallai bod y Lasynys yn ymddangos yn bell iawn oddi wrthym ym Mhrydain, ond mae ei haenau iâ yn dal 7.5 metr o godiad yn lefel y môr, ac wrth iddynt doddi fe allai gael effaith drychinebus ar erydiad arfordirol a’r amddiffynfeydd môr yma”.
Yn ôl Dr Edwards bydd astudio prosesau microbaidd mewn amgylcheddau rhewlifol yn bwysig i ddeall sut mae rhewlifoedd a haenau iâ yn ymateb i newid hinsawdd.
“Yn fras iawn, gellir ystyried fod gan rewlifoedd “gyfrif banc”, gyda ‘chredyd’ yn cael ei ddarparu gan gwymp eira ffres, a'r debyd yn cael ei dynnu wrth i’r iâ ddadmer. Rydym wedi casglu sylfaen o dystiolaeth fod microbau yn gredydwyr a dyledwyr pwysig i’r cyfrif banc rhewlifol hwn.”
Mae’r papur yn disgrifio sut mae’r “credyd” yn cael ei gronni wrth i broteinau microbaidd mewn cymylau helpu i gatalyddu ffurfiant plu eira, ac mae’r microbau yn byw mewn pacfeydd eira. Caiff y “debyd” ei dynnu wrth i ecosystemau microbaidd dywyllu arwyneb yr iâ, gan gynyddu faint o ynni’r haul a amsugnir gan yr iâ - math ar “adborth albedo biolegol” i rewlifoedd.
Ychwanegodd Dr Edwards: “Rydym wedi dechrau disgrifio’r dylanwadau microbaidd hyn yn “ddamcaniaeth germau” ar gyfer rhewlifoedd oherwydd y goblygiadau i’r ffordd y mae rhewlifoedd yn gweithio”.
Mae’r papur yn adeiladu ar ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ecosystemau rhewlifol.
Dywedodd y rhewlifegydd Dr Tristram Irvine-Fynn, cydawdur y papur; "Gan ddefnyddio technegau soffistigedig mewn sytometreg llif, fe wnaethom amcangyfrif nifer y microbau sy’n byw mewn arwynebau rhewlifoedd ledled y byd. Cawsom ein syfrdanu wrth ddarganfod niferoedd sy’n cymharu â chynefinoedd adnabyddus megis priddoedd fforestydd glaw neu arwyneb y moroedd”.
“Efallai bod y microbau hyn yn fychan, ond maent yn bwysig. Mae angen i ni ddeall y croniant hwn o ficrobau mewn mwy o fanylder i weld sut mae’r effaith albedo hwn yn cynyddu effaith newid hinsawdd ar ddadmer y rhewlifoedd", ychwanegodd Dr Irvine-Fynn.
Mae’r berthynas rhwng microbau a rhew yn treiddio’n ddwfn gan ei bod yn cynnwys microbau sy’n byw o dan y rhewlifoedd.
Mae’r geocemegwr microbaidd Dr Andrew Mitchell hefyd yn gydawdur ar y papur. Roedd Dr Mitchell yn brif ymchwilydd prosiect llwyddiannus Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol UDA i dyllu i lyn is-rewlifol Whillans yn Antarctica.
Dywed Dr Mitchell; “Mae rhewlifoedd yn gorchuddio 11% o'r Ddaear. Doedden ni ddim yn gwybod tan ryw ddegawd yn ôl bod bywyd yn gallu goroesi o dan y rhew, ond nawr rydym yn gwybod sut mae microbau’n "bwyta" creigiau i oroesi o dan yr iâ, ac yn cynhyrchu methan, sy’n nwy tŷ gwydr pwerus".
Bydd y tîm yn ymchwilio ymhellach i’r cysylltiadau rhwng iâ a bywyd wrth iddo ddechrau mapio bioleg iâ rhewlifol ledled yr Arctig a’r Alpau, a gwneud gwaith maes yn Svalbard, y Lasynys, Arctig Canada a Sweden ac Alpau Awstria.
Cyllidir y gwaith gan y Gymdeithas Frenhinol, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, yr Undeb Ewropeaidd a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru.
Bydd y tîm yn gweithio gyda myfyrwyr BSc yn y Gwyddorau Biolegol a myfyrwyr MSc mewn Rhewlifeg, gan gysylltu ymchwil arloesol gyda dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Rwy’n gobeithio y bydd ein gwaith maes yn cynnig cipolwg o’r ffordd mae bywyd microbaidd mewn rhewlifau yn ymateb i newidiadau mewn rhewlifau a haenau iâ, ac yn cynyddu’r newidiadau hynny ar yr adeg allweddol hon wrth i’r hinsawdd gynhesu” meddai Dr Edwards.
AU42314