Cyfoethogi dysgu ac addysgu
Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu
17 Medi 2014
Cynhelir cynhadledd fawr sy’n edrych ar ddatblygiadau mewn dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon (16-18 Medi).
Mae mwy na 90 o gynrychiolwyr o bob rhan o'r Brifysgol a'r Deyrnas Gyfunol yn treulio tridiau yn ystyried yr ymchwil a methodolegau diweddaraf er mwyn cyfoethogi profiad a dysgu myfyrwyr.
Mae Ysbrydoli Dysgu: Rhannu Technoleg ac Hanesion Technoleg yn dwyn ynghyd academyddion a chydweithwyr cymorth arbenigol ar draws y Brifysgol i ystyried ystod eang o bynciau, i gyd yn ymwneud â thema ganolog o sut i barhau i wella dulliau a thechnolegau a ddefnyddir wrth addysgu.
Agorwyd y gynhadledd ddydd Llun gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, a’r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro John Grattan.
Cynhelir nifer o sesiynau, grwpiau trafod ac anerchiadau allweddol dros y tridiau nesaf. Mae’r pynciau yn cynnwys cymhelliant, y defnydd o adborth, sut y gall cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio mewn cyd-destun academaidd a'r heriau a'r cyfleoedd a gynigir gan ddysgu o bell.
Daeth y prif anerchiad agoriadol gan yr Athro Simon Lancaster o Brifysgol East Anglia a siaradodd am addysgu rhyngweithiol.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i ystafelloedd addysgu’r Brifysgol dros y flwyddyn ddiwethaf gan adnewyddu ac ailaddurno 34 o ddarlithfeydd ar draws y campws.
Meddai’r Athro Grattan; "Mae’r gynhadledd flynyddol yma ar Ddysgu ac Addysgu yn anelu at arddangos arfer gorau yn y defnydd o addysgu a dysgu. Mae'r ffocws ar rannu dulliau sy'n effeithiol o ran gwella profiad dysgu myfyrwyr.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yma: http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/TEL+Conference+2014?language=cy