Google yn noddi cynhadledd ar sensoriaeth y rhyngrwyd

Trefnydd y gynhadledd, Dr Uta Kohn o Adran y Gyfraith a Throseddeg

Trefnydd y gynhadledd, Dr Uta Kohn o Adran y Gyfraith a Throseddeg

05 Medi 2014

Bydd cynrychiolwyr Google, Microsoft, y Comisiwn Ewropeaidd, UNESCO ac academyddion o ddwy ochr mor Iwerydd ymhlith y cynadleddwyr mewn cynhadledd ryngwladol ar sensoriaeth y rhyngrwyd a gynhelir yn Aberystwyth ar 10-11 Medi 2014.

O dan yr enw ‘Cynhadledd ar Awdurdodaeth y Rhyngrwyd: Cyfraith Genedlaethol yn erbyn Cyfathrebu Ar-lein Byd-eang - Ail-Negodi Westffalia?’, trefnir y gynhadledd gan adrannau Cyfraith a Throseddeg, a Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Google Inc sy'n noddi'r digwyddiad a fydd yn dod ag academyddion at ei gilydd o ddisgyblaethau megis y gyfraith, gwleidyddiaeth, astudiaethau'r cyfryngau a daearyddiaeth ddynol, yn ogystal â chynrychiolwyr o fyd diwydiant, llywodraethau a chyrff anllywodraethol.

Bydd yn ystyried y gwrthdaro sy'n gwaethygu rhwng cyfraith genedlaethol a sofraniaeth wladwriaethol ar y naill law, a chyfathrebu ar-lein byd-eang ar y llaw arall.

Yn ôl trefnwyr y gynhadledd, mae'r byd dan berygl o fynd i sefyllfa lle y gallai'r rhyngrwyd gael ei gweddnewid a datblygu'n endid a holltir yn diriogaethol, sef nifer o rwydweithiau cenedlaethol a rhanbarthol a fydd ar wahân ond eto yn gorgyffwrdd â'i gilydd hefyd.

Maent yn dadlau bod hyd yn oed arweinwyr Ewropeaidd yn ystyried posibiliadau rhwydwaith cyfathrebu Ewropeaidd yn unig, yn hynod debyg i ddull Tsieina o lywodraethu'r rhyngrwyd. Mae'r model Westffalaidd o sofraniaeth y wladwriaeth yn cryfhau - ond a allwn fod ar ein colled drwy hynny, a beth yw'r dewisiadau amgenach?

Dywedodd un o drefnwyr y gynhadledd, y Dr Uta Kohl; “Rydym yn gwybod ers tro fod Tsieina yn sensora’r we yn llym. Yn fwy diweddar, daeth hysbyslun gwrth-Islamaidd y ffilm ‘The Innocence of Muslims’ i’r amlwg wrth i YouTube benderfynu ei wahardd ‘yn wirfoddol’ yn yr Aifft a Libya ac yna mewn gwledydd eraill lle'r oedd y fideo’n gwrthdaro â chyfreithiau lleol. Y newyddion diweddaraf o’r wasg yw bod Llys Cyfansoddiadol Twrci wedi penderfynu bod y gwaharddiad cyffredinol ar YouTube yn Nhwrci yn anghyfansoddiadol.

"Prin fod sensora o’r fath yn peri syndod i ni heddiw, ond yr hyn sy’n llai amlwg i ddefnyddwyr cyffredin y rhyngrwyd ac i ddarllenwyr papurau newydd yw bod sensora ar-lein bellach yn digwydd yn fwyfwy i bobl Ewrop er gwaethaf ein traddodiad hir o ddemocratiaeth a rhyddid mynegiant.

“Mae'r gynhadledd hon yn awyddus i hyrwyddo'r ddadl academaidd hirsefydlog ond diffrwyth ar awdurdodaeth y rhyngrwyd drwy arddel dull amlddisgyblaethol o drafod y pwnc, gan fynd y tu hwnt i ffiniau arferol y dadansoddiadau cyfreithiol.

“Yn hytrach na chanolbwyntio ar reolau a fframweithiau penodol awdurdodaeth (sydd i gyd yn ddibynnol ar barhad cyfreithiau cenedlaethol effeithiol yn y cyd-destun byd-eang, sef yr union fater sy'n bwnc llosg), bydd trafodaeth y gynhadledd hon yn cychwyn o'r gosodiad bod cyfraith genedlaethol effeithiol a chyfathrebu rhyngwladol dilyffethair yn anghyson â'i gilydd a bod unrhyw 'gyfaddawdu' yn mynd i fod yn gyfaddawd a fydd ar draul cyfreithiau neu werthoedd cenedlaethol penodol ar y naill law, neu gyfathrebu rhyngwladol rhydd ar y llall, neu yn wir ar draul y ddau: chewch chi ddim cadw'r dorth a'i bwyta hi.

“Wrth dderbyn y sefyllfa honno, bydd hi'n bosib gwreiddio'r ddadl mewn gwerthoedd cyfreithiol a gwleidyddol uwch, megis rhyddid mynegiant, llywodraethu democrataidd a diogelu hunaniaethau ac amrywiaeth diwylliannol, ac i ystyried posibiliadau hyrwyddo'r gwerthoedd hynny drwy ail-negodi dulliau o lywodraethu.”

Ceir manylion llawn y gynhadledd ar y we yma

AU21314