Haf o ddysgu yn Aber

29 Awst 2014

Tra byddai’r rhan fwyaf o bobl ifainc yn dueddol o gymryd hoe oddi wrth eu hastudiaethau, dewisodd 79 myfyriwr ifanc ddewis mynychu chwe wythnos o ddarlithoedd, ymchwil a chyflwyniadau ym Mhrifysgol Haf Aberystwyth.

Mae Prifysgol Haf Aberystwyth yn rhaglen ehangu mynediad sydd wedi’u hanelu at bobl sy’n 17 oed neu’n hŷn ac sy’n medru arddangos ymroddiad a dyfalbarhad i gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus. Maent yn byw a / neu’n mynychu’r ysgol mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf Cymru, neu fe ddônt o gefndir gofalwr / darparwr gofal, neu nhw yw’r cyntaf o’u teuluoedd neu eu cymunedau i fynd i’r brifysgol.

Yn ôl Rheolwr Prifysgol Haf Aberystwyth, Dr Debra Croft , cryfder y cynllun yw ei fod yn caniatáu i grŵp mawr o fyfyrwyr i ddod ynghyd am amser estynedig lle cânt astudio pynciau o’u dewis hwy, wedi’u dysgu gan academyddion yn yr Adrannau, gan efelychu bywyd prifysgol ym mhob modd posibl.

“Daw llawer o’i rhagoriaethau o’r ffaith fod gan y myfyrwyr 6 wythnos i drochi eu hunain yn y profiad prifysgol, lle mae’n rhaid iddynt ddygymod â bod oddi cartref, yn ogystal â gwasgfeydd gwaith academaidd a therfynau amser.

“Maent yn dysgu sgiliau rheoli ac amser, sy'n eu galluogi i fwynhau rhaglen lawn o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol ar y Campws ac yn yr ardal leol.

"Nid yn unig mae o fudd i'r bobl ifanc sy'n astudio gyda ni", ychwanegodd, "ond mae hefyd yn rhoi profiad go iawn i'n tîm ni o Arweinwyr Myfyrwyr wrth iddynt gynorthwyo gyda gofal bugeiliol a chydlynu chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol ar y cwrs.

"Mae'r Arweinwyr yn fyfyrwyr cyfredol sydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu lefel uchel o gymhelliant a gofal i'r myfyrwyr haf - rhai ohonynt nad ydynt wedi aros oddi cartref o'r blaen. Mae'r cyfle hwn yn eu galluogi i hogi eu sgiliau a chynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth."

Un o’r Arweinwyr eleni oedd myfyriwr Seicoleg yn y 3ydd flwyddyn, Chris Blackwell o Gwm Ogwr. Roedd Chris yn gyfrifol am grŵp o 15 o fyfyrwyr coleg Addysg Bellach ar gwrs eleni, ar ôl mynychu'r cwrs ei hun yn 2010 a bu'n gweithio yn 2013.

Esboniodd "Fe wnaeth y Brifysgol Haf yn llythrennol newid fy mywyd yn llwyr ac roeddwn eisiau gwneud hynny ar ran rhywun arall. Heb yr haf hwnnw, ni fyddwn wedi cysidro dod i'r brifysgol. Roeddwn yn swil iawn a doeddwn i ddim wir wedi mwynhau fy amser yn yr ysgol.

"Mae'r cwrs hwn yn dangos i chi fod yna bobl eraill allan yna fel chi. Fe wnaeth i fi eisiau dod yma i’r brifysgol lle rwy'n teimlo fy mod yn ffitio i mewn."

Chris yn awr yn mynd ymlaen i wneud cwrs TAR ar gyfer addysgu mewn ysgolion cynradd, gan arbenigo mewn anawsterau dysgu ac mae'n bwriadu hyfforddi fel Seicolegydd Addysg yn y tymor hir ar ôl gwneud gradd Meistr.

Fe wnaeth y seremoni graddio hefyd gydnabod y gwaith o chwe myfyriwr Sefydliad Lleoliadau Ymchwil Nuffield sydd wedi treulio eu haf yn gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ychwanegodd Dr Debra Croft, “Mae myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf o gwrs gwyddoniaeth ôl-16, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn gymwys i ymgeisio am leoliad Nuffield ac mae myfyrwyr nad oes ganddynt hanes teuluol o fynd i brifysgol neu sy'n mynychu ysgolion mewn  ardaloedd llai breintiedig yn enwedig yn cael eu hannog yn Aberystwyth.”

AU34014