Astudiaeth yn darganfod bywyd 800 Metr islaw llen iâ’r Antarctig
Samplau craidd yn cael eu hadfer o Lyn Whillans
21 Awst 2014
Mae WISSARD, astudiaeth dan arweiniad Americanaidd a ariannwyd gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Genedlaethol i ddarganfod bywyd islaw llen iâ’r Antarctig, wedi cyhoeddi ei darganfyddiadau'r wythnos hon.
Ddiwedd Ionawr 2013 crëwyd hanes gwyddonol a pheirianyddol gan y tîm WISSARD pan lwyddasant i gael gafael ar samplau o ddŵr a gwaddodion o Lyn Whillans sy’n gorwedd 800 metr (2600 troedfedd) islaw llen iâ’r Antarctig.
Wrth ysgrifennu yn y cylchgrawn Nature, mae’r tîm yn adrodd bod y samplau o ddŵr a gwaddodion a gymerwyd o’r llyn yn profi ei fod yn cynnal ecosystem ficrobaidd.
Y gwyddonydd Dr Andrew Mitchell o Brifysgol Aberystwyth oedd un o’r ddau wyddonydd seiliedig yn Ewrop a gymrodd ran yn yr astudiaeth.
Roedd Dr Mitchell, sy’n ymchwilydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn gweithio mewn labordai oedd wedi eu lleoli ar y sgafell iâ uwchlaw Llyn Whillans yn Antarctica yn ystod Rhagfyr 2012 ac Ionawr 2013.
Roedd ei waith yn canolbwyntio ar brofi dŵr a gwaddodion i benderfynu a oedd arwyddion cemegol o weithgaredd microbaidd yn bresennol ynddynt.
Ar y cyd â dadansoddiad microbaidd, roedd gwaith Dr Mitchell yn galluogi’r tîm WISSARD i adeiladu darlun llawn o’r ecosystem botensial islaw llen iâ’r Antarctig, ei effaith ar gemeg y dŵr a sut mae’r microbau yn rhyddhau maetholion i’r dŵr drwy dreulio’r creigiau yn llythrennol.
Mae’r microbau yn defnyddio daeareg eu hamgylchedd i ryddhau elfennau sydd wedi eu dal yn y creigiau a’u gollwng i’r dŵr, a bydd yr elfennau hynny yn y diwedd yn llifo allan i’r moroedd.
Roedd y risg o lygru’r llyn gyda deunydd o'r byd y tu allan yn golygu bod system drilio a samplo hollol newydd 'mynediad glân' wedi cael ei ddatblygu, a'r risg o gasglu samplau yn golygu bod yr holl ddadansoddi cemegol yn cael ei wneud mewn labordai a oedd wedi eu cynllunio’n benodol a’u gosod ar safle’r drilio.
Meddai Dr Mitchell: “Am y tro cyntaf mae’r astudiaeth hon wedi arddangos ecosystem subglacial ficrobaidd gweithgar a rôl microbau yn cylchu maetholion yn ddwfn o dan lenni iâ. Mae’n bosib i’r amgylcheddau yma wasanaethu fel lloches ar gyfer bywyd dros amser daearegol yn ystod cyfnodau pan oedd y Ddaear bron yn gyfan gwbl wedi’i orchuddio gan iâ.”
“Rydyn ni’n gwybod erbyn hyn bod rhagor na 400 o lynnoedd islaw llen iâ’r Arctig a’r rheini yn gysylltiedig â’i gilydd ac mae’r astudiaeth hon yn awgrymu bod symiau sylweddol o garbon a maetholion yn cael eu symud mae’n debyg o’r llynnoedd tanrewlifol hyn i Gefnfor anferth y De sy’n amgylchu’r cyfandir, o ganlyniad i weithgarwch y microbau hyn ac yn darparu ffynonellau bwyd cyfoethog a gwerthfawr.”
Mae Dr Mitchell a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio’r prosesau biolegol a chemegol sy’n digwydd mewn rhewlifoedd er mwyn deall eu heffaith ar newid yn yr hinsawdd.
Gyda chymorth ariannol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae’r tîm yn ddiweddar wedi sefydlu Labordy Amgylcheddau Arbrofol Eithafol lle maent yn astudio prosesau microbiolegol a chemegol sy’n digwydd mewn eithafion tymheredd, pwysedd a sychder - faint o ddŵr sydd o gwmpas.
AU33014