Academi Aber yn gweld buddsoddiad werth £200,000

Mary Jacob, Tom Bartlett a Karl Drinkwater, Llyfrgellydd yr Adran Seicoleg

Mary Jacob, Tom Bartlett a Karl Drinkwater, Llyfrgellydd yr Adran Seicoleg

19 Awst 2014

Mae canolfan newydd sy'n hwyluso adnoddau dysgu amlgyfrwng gan ddefnyddio sain creu, fideo ac animeiddio i wella a chyfoethogi profiad dysgu'r myfyriwr, wedi cael ei agor gan Brifysgol Aberystwyth.

Yn cynrychioli buddsoddiad werth £200,000, mae Academi Aber wedi’i leoli yn Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais.

Mae'n darparu hyfforddiant i aelodau o staff ar sut i ddefnyddio technoleg yn effeithiol, ac yn cynnig lle i gyfnewid syniadau a rhannu arfer da mewn dysgu ac addysgu.

Mae’r cyfleusterau yn cynnwys labordy cyfryngau a stiwdio recordio, ac offer megis camerâu, camerâu fideo a microffonau, a gellir eu defnyddio a’u benthyg gan staff i helpu gyda chyflwyno darlithoedd, ymchwil neu gyflwyniadau.

Mae'r Academi wedi cael ei ddatblygu i raddau helaeth mewn ymateb i adborth gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, yr Arolwg Defnyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth ac astudiaethau profiad y dysgwr a gynhaliwyd yn 2010 a 2013.

Fe wnaeth y myfyrwyr a gymerodd rhan yn yr arolygon ddweud yn glir eu bod yn chwilio am fwy o fideo a sain, a phrofiad dysgu rhithwir a rhyngweithiol mwy cyfoethog.

Gan gydnabod pwysigrwydd adborth y myfyrwyr, mae'r Academi hefyd yn sefydlu fforwm lle bydd myfyrwyr yn gallu rhoi eu barn ar ddeunydd newydd, roi adborth ar fentrau dysgu ac addysgu a chyfrannu syniadau am ddatblygiadau yn y dyfodol.

Mae'r £200,000 a fuddsoddwyd yn yr Academi wedi cael ei ariannu ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a'r Porth Dysgu CADARN.

Mae'r Porth Dysgu CADARN yn hyrwyddo ac yn hwyluso dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg ar draws sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Eglurodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol, "Rwy'n falch iawn gyda'r cyfleuster newydd a gyda'r offer newydd bydd ein haelodau staff yn gallu ei ddefnyddio yn y dyfodol i helpu i ddatblygu deunyddiau dysgu ac addysgu o safon uchel.

"Mae gan Aberystwyth ddyhead i arwain y ffordd pan ddaw hi i addysgu a rhagoriaeth ac mae’r Academi yn mynd i’n helpu i gyflawni'r nod hwnnw.

"Rydym yn awyddus i greu amgylchedd lle gall cydweithwyr rannu a datblygu ffyrdd newydd o weithio mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel. Gall profiad prifysgol drawsnewid bywydau pobl, a gyda’r cyfleuster newydd yma, rydym yn gobeithio i wneud hynny fwy a mwy."

Ychwanegodd Tom Bartlett, Rheolwr Prosiect y Porth Dysgu CADARN, "Mae Porth Dysgu CADARN yn anelu at ysgogi cynhyrchu cyfryngau addysgol ar draws addysg uwch Gymraeg drwy ddarparu canllawiau arbenigol, cymorth ac offer i staff addysgu. Byddwn wedyn yn hyrwyddo arfer da a’r adnoddau maent yn ei gynhyrchu ar ein gwefan i ysbrydoli pobl newydd o bob cefndir i Addysg Uwch.

"Mae’r Porth Dysgu yn falch i fod yn seiliedig o fewn yr Academi newydd yn Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda staff addysgu i greu cynnwys addysgol wirioneddol ddiddorol."

Dywedodd Mary Jacob, Cadeirydd y Gweithgor CADARN Prifysgol Aberystwyth, "Rydym yn falch iawn o wneud y ddarpariaeth yma a fydd yn helpu academyddion gyfoethogi eu haddysgu trwy ddefnyddio cyfryngau a gwella profiad y myfyriwr. Bydd Fforwm yr Academi yn darparu cyfle i unrhyw staff a myfyrwyr sydd â diddordeb i ddod at ei gilydd fel cymuned o ymarfer i hybu rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu.”

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr Academi ar gael yma: http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/Aber+Academy

I’r aelodau o staff sydd â diddordeb mewn defnyddio'r cyfleusterau, cael hyfforddiant, a fyddai'n hoffi ymuno â Fforwm yr Academi neu siarad â Grŵp E-ddysgu'r Brifysgol am ddatblygu deunydd dysgu, cysylltwch â: acistaff@aber.ac.uk  

AU28314