Memorandwm o Ddealltwriaeth

Dr Charles Ologunde, Dr. Theresa Taiwo Akande, Yr Athro April McMahon a Mrs Adeniran Stephania Odusade.

Dr Charles Ologunde, Dr. Theresa Taiwo Akande, Yr Athro April McMahon a Mrs Adeniran Stephania Odusade.

18 Awst 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Choleg Polytechnig Ffederal Ado-Ekiti yn Nigeria.

Fe lofnodwyd y Memorandwm ar ddydd Llun 18 Awst gan Reithor Ado-Ekiti, Dr Theresa Taiwo Akande, a'r Athro April McMahon o Brifysgol Aberystwyth.

Mae'r Memorandwm yn ffurfio sail ar gyfer datblygu cyfres o raglenni ar y cyd rhwng Ado-Ekti a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Meysydd ymchwil IBERS sydd yn cael eu hystyried yw diogelwch bwyd a arweinir gan yr Athro Luis Mur; Sgistosomiasis, mae'r clefyd parasitig sydd yn gyffredin yn Is-Sahara Affrica, sy'n cael ei arwain gan yr Athro Karl Hoffman a Dr Iain Chalmers; ymchwil i fapio Malaria sy'n cael ei arwain gan yr Athro Chris Thomas a Dr Donall Cross ynghyd a gwaith ar nodi cynhyrchion naturiol gan feddyginiaethau perthnasol dan arweiniad Dr Ifat Parveen.

Dywedodd yr Athro April McMahon: "Fel sefydliad ymchwil blaenllaw yn y Deyrnas Gyfunol, mae gan Brifysgol Aberystwyth nifer o gysylltiadau ymchwil sefydledig hir a phwysig gyda phrifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y byd. Mae'n bleser i allu ymestyn y rhwydwaith hwn drwy lofnodi'r Memorandwm Dealltwriaeth gyda Choleg Polytechnig Ffederal yr Ado-Ekti."

"Mae IBERS yn Sefydliad sy’n arwain y byd ar rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu'r byd heddiw ac sy’n cynnwys diogelwch bwyd, dŵr ac ynni ac mae llawer y gall y ddau sefydliad elwa ohono drwy gydweithio yn y meysydd hyn. I lawer sy'n byw gyda'r realiti dyddiol o falaria a chlefydau parasitig fel sgistosomiasis, cyflwr sy'n effeithio ar amcangyfrif o 120 miliwn o bobl ar draws y byd a'r marwolaethau o oddeutu 200,000 o bobl bob blwyddyn, mae cydweithio o'r fath yn hanfodol gan fod gwyddonwyr yn ceisio datblygu brechlynnau a thriniaethau y bydd, ymhen amser, yn trawsnewid bywydau."

Fe ddaeth y Rheithor Dr Theresa Taiwo Akande i Aberystwyth gyda Chofrestrydd y Coleg Polytechnig, Mrs Adeniran Stephania Odusade, a Chyfarwyddwr Ymchwil y Coleg, Dr Charles Ologunde.

 

AU32914