Mapio a Chomisiynu Cyfieithiadau Academaidd i’r Gymraeg
Cyfieithu fydd y thema fawr ym mhabell Prifysgol Aberystwyth ar fore dydd Gwener y Brifwyl.
06 Awst 2014
Cyfieithu fydd y thema fawr ym mhabell Prifysgol Aberystwyth ar fore dydd Gwener y Brifwyl, wrth i Sefydliad Mercator arwain gweithgaredd dwbl ar y pwnc ar ran Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol Prifysgol Aberystwyth.
Yn gyntaf, bydd Ned Thomas a Dewi Huw Owen yn cyflwyno blaenffrwyth Prosiect y buont yn gweithio arno ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i lunio catalog ar-lein o gyfieithiadau i’r Gymraeg ym meysydd y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’r catalog bellach ar-lein ar Y Porth, gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac y mae’n llawn o eitemau cyntaf yr ymchwil.
Mae dros 550 o wahanol destunau wedi’u cynnwys eisoes yn y catalog, a chynrychiolir ynddynt dros 30 o ieithoedd. Mae amrywiaeth y gwaith yn eang. Ceir yn y catalog Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol (Marx ac Engels, cyf. W.J. Rees), Y Wladwriaeth (Plato, cyf. D. Emrys Evans), Gweledigaethau Dante, sef La Divina Commedia (Dante cyf. Daniel Rees), 3 Hamlet y Gymraeg, gweithiau gan Tolstoi, Twrgenief, Tsiecoff a mawrion llenyddiaeth Rwsia, a Datganiadau Cyfreithiol Rhyngwladol amrywiol i enwi ond ychydig ohonynt.
Mae manylder y catalog eisoes wedi esgor ar amryw o brosiectau pellach, megis papur ymchwil Dewi Huw Owen a Roger Owen, TFTS, ‘Tri Hamlet y Gymraeg’, a gyflwynwyd yng Nghymru ac ym Mharis. Yn ogystal ysbrydolodd berfformiad arbennig o gyfieithiad Arzel Even (Jan Piette, gynt o Brifysgol Aberystwyth) o ddrama Lydaweg Roparz Hemon, ‘Carnifal’ gan rai o fyfyrwyr Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Bu hefyd yn ysbardun i ddigideiddio rhai testunnau theoretig pwysig i’r Gymraeg, sef cyfres Be’ Ddywedodd ...?, sydd bellach ar gael ar Y Porth.
Trafodir hynt y casglu, natur y testunau, a hygyrchedd y catalog yn y sgwrs ar ddydd Gwener. Gellir cael hyd i’r catalog trwy ddilyn y linc hwn: https://www.porth.ac.uk/cyfieithiadau/
Yn ail, gwahoddir academyddion a chyfieithwyr i ymuno â thrafodaeth ford gron am gomisiynu cyfieithiadau newydd yn y Gymraeg. Eir ati i drafod pa feysydd academaidd, pa feddylwyr, a pha ddetholion y dylid eu trosi nesaf i’r Gymraeg, yng ngoleuni tystiolaeth y Catalog, a phrofiadau uniongyrchol yr academyddion hyn o weithio ym myd ysgolheictod ac addysgu’r Gymraeg. Fe’ch gwahoddir chi hefyd i ymuno â’r drafodaeth bwysig hon. Gwaith pa feddylwyr mawr y byd, a pha ysgrifau neu gyhoeddiadau allweddol a ddylid eu cyfieithu i’r Gymraeg? Pwy sydd ar frig rhestr y Detholion? Бахти́н, Barthes, Baudrillard, de Beauvoir, Bourdieu, Benjamin, Derrida, Said, Fanon, Foucault, Gramsci, neu rywun arall drachefn?
Mae’r cyflwyniad a’r drafodaeth ar y cyd yn addo bod yn ddigwyddiad cyffrous a bywiog, felly galwch draw bawb ohonoch i babell Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener yr 8fed o Awst am 10:30yb.