Eisteddfod Genedlaethol 2014

28 Gorffennaf 2014

Bydd amrywiaeth o sgyrsiau, darlithoedd a gweithgareddau rhyngweithiol sy'n addas ar gyfer pob oedran ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni rhwng yr 2il a’r 9fed Awst ac mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys:

Dydd Llun 4 Awst, 11am: Erlid yn Aber: Pennod ddu yn hanes Aberystwyth
Darlith ar fywyd Yr Athro Hermann Ethé gan Tegwyn Jones, cyn-fyfyriwr o’r Brifysgol. Almaenwr oedd Carl Hermann Ethé, Athro Ieithoedd Dwyreiniol yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Oherwydd y pwysau a roddwyd arno gan bobl Aberystwyth a Chyngor Tref Aberystwyth, roedd Ethe wedi gorfod dychwelyd yn ôl i’r Almaen.

Dydd Llun 4 Awst, 2.30-4pm: Y Tribiwnlysoedd Cymreig: Beth? Sut? A Pham?
Seminar fywiog yng nghwmni y Barnwr Tribiwnlys Meleri Tudur a Dr Catrin Fflur Huws, darlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dydd Llun 4 Awst, 4pm: Cymru a'r byd: Polisïau Rhyngwladol Cymru ôl-ddatganoledig
Trafodaeth yng nghwmni Dr Elin Royles a Dyfan Powel o’r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol.

Dydd Mawrth 5 Awst, 2pm: Llun a stori gydag Eurig Salisbury
Cyfle i blant cynradd wrando ar Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru 2011-13, yn darllen llyfr gwych ‘Pobol y Pants o’r Gofod’. Bydd cyfle i dynnu llun sy’n cyd-fynd â’r llyfr hefyd.

Dydd Mawrth 5 Awst, 3pm: Her Y Brifysgol
Cwis hwyliog rhwng staff a myfyrwyr y Brifysgol dan ofal y cwis feistr a’r hanesydd, Dr Russell Davies.    

Dydd Mercher 6 Awst, 10.30am: Cyfle i arbrofi
Dewch i ddarganfod sut mae troi planhigion yn blastig yng nghwmni Dr Sharon Huws, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Gwyddor Anifeiliad a’r Gwyddonydd Ymchwil, Luned Roberts, o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Dydd Mercher 6 Awst, 2-4pm: Aduniad Prifysgol Aberystwyth (sy’n cael ei gynnal ar y cyd rhwng Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr a’r Brifysgol)
Mae hwn yn gyfle gwych i bawb sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar unrhyw gyfnod, ddod i gwrdd â’i gilydd ar faes yr Eisteddfod. Darperir lluniaeth ysgafn a chewch gyfle i hel atgofion gyda hen ffrindiau. Croeso i bawb.

Dydd Iau 7 Awst, 10-11.30am: Syniadau Mawr
Digwyddiad i ddathlu Syniadau Mawr Cymru ac i roi cip olwg o'r hyn sydd i ddod yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Prif nod Syniadau Mawr Cymru yw annog pobl ifanc i godi eu dyheadau a gwireddu eu potensial i greu cyfleoedd cyffrous iddynt hwy eu hunain ac eraill.

Dydd Iau 7 Awst, 12pm: Talwrn y Beirdd
Dewch i weld yr ornest farddol rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth ac Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor. Pwy fydd yn fuddugol eleni tybed?

Dydd Iau 7 Awst, 3pm: Trafodaeth Ysgrifennu Greadigol
Trafodaeth fywiog am Ysgrifennu Creadigol yng nghwmni’r Athro Mihangel Morgan a Miriam Elin Jones o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dydd Gwener 8 Awst, 10.30am: Mapio a Chomisiynu Cyfieithiadau Academaidd i’r Gymraeg
Cyflwyniad prosiect, yng nghwmni Yr Athro Elin Haf Jones, Dr Ned Thomas a Dewi Huw Owen, i lunio catalog ar-lein o gyfieithiadau i’r Gymraeg a thrafodaeth ar gyfieithu.

Dydd Gwener 8 Awst, 12pm: Darlith Flynyddol E G Bowen: Llifogydd, sychder ac addasu yng nghymdeithas hydrograffig y Wladfa Gymreig, Patagonia
Am y tro cyntaf eleni, fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Darlith Flynyddol E.G. Bowen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn edrych ar sut y gwnaeth gwladychwyr Cymreig Patagonia addasu i lifogydd a sychder o 1865 hyd at heddiw. Bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi gan Dr Hywel Griffiths o Aberystwyth a bydd yn edrych ar y rhyngwynebau rhwng y gwladychwyr Cymreig, eu diwylliant ac yr amgylchedd wrth iddynt gael eu gorfodi i addasu i eithafion hinsoddol annisgwyl.

Dydd Gwener 8 Awst, 2pm: Cofio Dyddiau Aber: Atgofion cyn fyfyrwyr
Cawn sgwrs yma am atgofion cyn fyfyrwyr yr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes a Gwleidyddiaeth. Sgwrs dan gadeiryddiaeth Dr Arddun Arwyn.

Dydd Gwener 8 Awst, 3pm: Aduniad Ganol Haf UMCA
Os ydych yn fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth neu’n ddarpar fyfyriwr, yna dewch draw i’r stondin am Aduniad Ganol Haf. Bydd adloniant gan Yr Eira, a cheir lluniaeth ysgafn.

Am wybodaeth bellach am ein holl ddigwyddiadau ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/eisteddfod/

AU31014