Sister Act yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau

25 Gorffennaf 2014

Fe fydd cynhyrchiad cerddorol yr haf eleni, Sister Act, yn dechrau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth heno ac yn rhedeg am bum wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ein sioeau haf ‘Hairspray’ yn 2012 a ‘Little Shop of Horrors’ yn 2013, mae’r un tîm creadigol yn dod at ei gilydd ar gyfer Sister Act.

Mae’r sioe yn adrodd stori ddoniol y ddifa disgo Deloris Van Cartier a sut ar ôl bod yn dyst ar gam i lofruddiaeth,  mae’n cael ei gosod mewn caethiwed gwarchodol yn y lleiandy lleol.

Mae’r sioe gerdd hon yn seiliedig ar y ffilm 1992 hynod lwyddiannus o’r un enw gyda Whoopi Goldberg yn chwarae rhan Deloris a Maggie Smith fel yr Uchel Fam. Enwebwyd y ffilm ar gyfer dwy wobr Golden Globe ac ‘roedd yn llwyddiant ysgubol yn y swyddfa docynnau.

Perfformiwyd sioe lwyfan o Sister Act am y tro cyntaf yn UDA yn 2006, yn agor yn y West End yn 2009 cyn symud ymlaen i Broadway ac wedyn ledled y byd. Yn Llundain fe’i henwebwyd ar gyfer pedair Gwobr Oliver ac fe’i gwelwyd gan dros filiwn o fynychwyr y theatr.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw’r theatr annibynnol gyntaf erioed i dderbyn caniatâd i gyflwyno Sister Act a fydd yn dangos rhwng y 25ain o Orffennaf - 30 Awst.

Bydd sioeau’r hwyr o Nos Fawrth tan Nos Sadwrn am 7.30pm bob wythnos gyda sioeau’r prynhawn ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn am 2.30pm.

I archebu tocynnau, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01970 62 32 32new ewch ar-lein: http://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/theatre/sister-act-summer-2014-show

AU30714