Perfeddion gwartheg yn allweddol i greu gwrthfiotigau’r dyfodol

Dr Sharon Huws

Dr Sharon Huws

22 Gorffennaf 2014

Mae taer angen inni weithredu i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o ymwrthedd i wrthfiotigau, ac mae Dr Sharon Huws a’i thîm yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi nodweddu dros 80 o elfennau  gwrthficrobaidd newydd o’r bacteria microsgopig a geir yn rwmenau gwartheg; ac mae’n bosib y bydd modd eu defnyddio i drin heintiau bacteriol mewn pobl.

Dywedodd Dr Sharon Huws, Darlithydd Coleg Cymraeg ym maes Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS: “Mae’r rwmen yn cynnwys llu o ficrobau sydd yn eu hanfod yn diraddio’r porthiant y mae’r anifail yn ei fwyta, gan ryddhau’r maetholion sy’n eu galluogi i dyfu. Yn y rwmen mae’r microbau’n cydweithio mewn partneriaeth ond maent yn aml yn cystadlu â’i gilydd. 

Rydym yn gwybod ers blynyddoedd bod rhai o ficrobau’r rwmen yn cynhyrchu’r elfen wrthficrobaidd bacteriosin, sy’n eu helpu i fod yn fwy cystadleuol yn y rwmen. Roedd yn ymddangos yn debygol felly eu bod hefyd yn cynhyrchu elfennau gwrthficrobaidd eraill y gellid eu defnyddio, o bosib, i drin heintiadau mewn pobl.“

Mae’r rwmen yn rhan arbenigol o’r perfedd sy’n galluogi gwartheg i gael maetholion o’r bwyd planhigol y maent yn ei fwyta drwy ei eplesu cyn ei dreulio yn yr ystumog, trwy brosesau bacteriol yn bennaf.

Gelwir defaid a gwartheg yn anifeiliaid cnoi cil. Mae’r enw Saesneg amdanynt, sef  ruminants, yn dod o’r gair Lladin ruminare, sy’n golygu ‘cnoi ddwywaith’. Gelwir y broses o godi cil a’i gnoi drachefn yn ‘cnoi cil’ – sy’n dadelfennu’r seliwlos mewn gwair ac sy’n ysgogi’r broses dreulio.

Mae’r cynnydd brawychus mewn ymwrthedd i wrthfiotigau ymhlith bacteria sy’n achosi heintiau, ynghyd â’r ffaith bod llai o gyffuriau newydd yn cael eu darganfod, yn her feddygol ddifrifol, ac mae dros 30 mlynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i wrthfiotigau newydd gael eu darganfod. Mae hyn, ynghyd â’r cynnydd yn yr ymwrthedd i wrthfiotigau cyfredol yn fater o’r pwys mwyaf i iechyd dynol.  

Mae Dr Huws a’i grŵp wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn gyda llywodraeth Nigeria dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac maent ar hyn o bryd yn cynnal profion i weld pa mor effeithiol yw’r elfennau gwrthficrobaidd newydd hyn o’r rwmen; mae hefyd yn ymwneud â grant Partneru Brasil y BBSRC sy’n darparu £50,000 dros 4 mlynedd i gydweithio ar ddarganfod gwrthfiotigau ym microbau’r rwmen.

Yn ddiweddar, mae hefyd wedi derbyn cyllid Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol ym maes Gwyddorau Bywyd gan Lywodraeth Cymru i barhau’r gwaith hwn a gwella’r ddealltwriaeth ynglŷn â sut mae’r elfennau gwrthficrobaidd hyn yn gweithio, a’r posibiliadau o safbwynt eu defnyddio i drin heintiau bacteriol mewn pobl.

Bydd Dr Sharon Huws yn y Sioe Frenhinol ar Ddydd Mawrth 22ain  a Dydd Mercher 23ain  Gorffennaf, a gall fod ar gael ar gyfer cyfweliadau. Mi fydd hi ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth G476 y drws nesaf i S4C uwch ben y Prif Gylch. Symudol: 07801 924822.

 

AU30614