Urddo sefydlwr cwmni Bwydydd Castell Howell

Brian Jones

Brian Jones

18 Gorffennaf 2014

Mae’r amaethwr a’r entrepreneur o Orllewin Cymru, Brian Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell a ffurfiwyd yn y 1980au, wedi ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Dros y 20 mlynedd diwethaf, mae Castell Howell wedi sefydlu ei hun fel un o brif gyfanwerthwyr bwyd annibynnol y wlad sy'n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig ac yn cyflogi 400 o staff.

Maent yn gwasanaethu dros 4,500 o gwsmeriaid ar draws ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys ysbytai, gwestai, bwytai, tafarndai, caffis, ysbytai, ysgolion a sefydliadau hamdden.

Mae Brian yn Gymrawd o'r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol ac ar hyn o bryd yn Llywydd Clwb Rygbi Charitables Cymru a Chlwb Rygbi Quins Caerfyrddin.

Cyflwynwyd Brian Jones gan yr Athro Nigel Scollan, Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ar ddydd Iau 17 Gorffennaf.

Mae’r Brian Jones yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sy’n cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill sydd yn cael eu hurddo eleni yw:

  • D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

AU29614