Cymunrodd yn cyllido ysgoloriaethau ymchwil PhD yn IBERS
Ilse Skujina
02 Gorffennaf 2014
Ym mis Medi 2014 bydd dau fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dechrau ar eu hastudiaethau PhD diolch i Owen Thomas Williams Price, mab hynaf ffermwr o Sir Frycheiniog a wnaeth gyfraniad sylweddol i'r diwydiant amaethyddol yn ystod ei oes.
Ganwyd Owen Price yn 1924 a daeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Economeg Amaethyddol, gan ei fod yn argyhoeddedig y byddai hyn o fudd i, ac yn gwella bywoliaeth, cymunedau amaethyddol tebyg i’w un ef ym Mrycheiniog.
Bu farw Owen Price ym mis Mai 2012 ac ewyllysiodd swm o arian i Brifysgol Aberystwyth sydd yn cyllido ysgoloriaethau ymchwil PhD yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
Bydd Ilse Skujina yn astudio genomau adar a'u cysylltiad â hirhoedledd, gwaith sydd wedi datblygu yn sgil ei phrosiect MPhil ar eneteg y Barcud Coch yng Nghymru.
Yn wreiddiol o Latvia, mae Ilse yn gyfarwydd iawn ag Aberystwyth gan ei bod wedi astudio ei gradd israddedig mewn Gwyddor Ceffylau yma.
Dywedodd Ilse; “Nid yn unig y mae Ysgoloriaeth Owen Price wedi fy ngalluogi i ddilyn llwybr gyrfa o’m dewis ac agor y drysau ar y byd o gyfleoedd newydd y mae PhD yn eu cynnig, ond mae’r potensial hefyd iddi ddylanwadu ar y gymuned wyddoniaeth fyd-eang trwy gynyddu dealltwriaeth gyffredinol o heneiddio.
“Gallai hyd yn oed ddarparu offer newydd i ni er mwyn mynd i'r afael a chlefydau dirywiol sy'n gysylltiedig â heneiddio.”
Bydd Rhys Jones yn astudio’r ymadwaith rhwng llyngyr yr iau, sy’n fater o bwys ym maes iechyd anifeiliaid sy’n cnoi cil, a llyngyr y rwmen, parasit sydd hefyd yn dod i’r amlwg mewn anifeiliaid sy’n cnoi cil.
“Rwy'n hynod ddiolchgar o dderbyn Ysgoloriaeth Owen Price. Byddaf yn edrych ar sut mae llyngyr rwmen a llyngyr yr iau yn cystadlu i heintio malwod, yn ogystal ag edrych ar y gydberthynas rhwng lefelau llyngyr yr iau a llyngyr rwmen ar ffermydd yng Nghymru. Bydd y data yn cael ei ddefnyddio i wneud rhywfaint o waith modelu ar nifer yr achosion o’r parasitiaid hyn yn y dyfodol."
"Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith yn arwain at ganlyniadau a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at etifeddiaeth Owen Price."
Bydd y ddau brosiect yn adeiladu ar weledigaeth ryngwladol Owen Price o sicrhau bod y gwaith a fu e’n ei hyrwyddo yn ystod ei fywyd yn parhau yn y dyfodol er budd cymunedau amaethyddol o amgylch y byd.
Ar ôl graddio yn 1946 gyda BSc gydag anrhydedd mewn Economeg Amaethyddol yn Aberystwyth, derbyniodd Owen Price ysgoloriaeth ymchwil gyda’r Weinyddiaeth Amaeth a'i galluogodd i astudio yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen a Phrifysgol Wisconsin.
Derbyniodd ei ddoethuriaeth yn Rhydychen, ac yna bu'n astudio ym Mhrifysgol Wisconsin ar gyfer gradd Meistr mewn Economeg Tir. Dychwelodd i Rydychen lle y derbyniodd ail radd Meistr a threuliodd dair blynedd yn darlithio mewn Economeg Tir yn y Sefydliad Ymchwil Economeg Amaethyddol.
Bu'n gweithio i nifer o gwmnïau gan gynnwys Imperial Chemical Industries (ICI), y Banc Rhyngwladol ar gyfer Ailadeiladu a Datblygu (Banc y Byd) yn Washington, a swyddfa Banc y Byd yn Iran.
Gyda'i gyfoeth o brofiad rhyngwladol, roedd Owen bob amser yn falch o'i wreiddiau Cymreig ac fe'i nodwyd gan y rhai oedd yn ei adnabod am ei garedigrwydd, ei gariad at fywyd a'i deulu. Pan ofynnwyd iddo am yr hyn oedd yn ei olygu i fod yn Gymro, un dyfyniad cofiadwy oedd, “mae bod yn Gymro yn golygu bod Cymru yn rhan ohonoch chi, rhan o'ch treftadaeth a phob amser yn rhan o'ch bywyd.”
AU26714