Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
Dr Debbie Nash
01 Gorffennaf 2014
Dyfarnwyd statws Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch i Dr Debbie Nash o Athrofa Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth.
Mae Debbie’n Uwch Diwtor a Darlithydd mewn Gwyddor Ceffylau ac Anifeiliaid yn IBERS ac mae’n un o ddwy fenyw yn unig yn y Brifysgol i dderbyn y Dyfarniad. Y gyntaf oedd Alison Pierse, Cydlynydd Celf a Dylunio Addysg Gydol Oes yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Mae AAU yn darparu fframwaith proffesiynol y gall darlithwyr addysg uwch ei ddefnyddio i sicrhau cydnabyddiaeth am ymarfer da, proffesiynoldeb a rhagoriaeth addysgu. Ceir nifer o lefelau cynyddol o gydnabyddiaeth y gellir eu cyflawni.
Mae statws Cymrawd gyfwerth â chyflawni statws TAR a chaiff y cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth ei achredu ar gyfer y statws hwn. Cyflawnir statws Uwch Gymrawd drwy wneud cais yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n dangos arweinyddiaeth, ac ysbrydoli a chefnogi eraill i ddatblygu eu haddysgu.
Un gweithgaredd allweddol yng nghais Dr Nash oedd iddi sefydlu’r Colocwiwm ar gyfer Atgenhedlu Ceffylau (CFER).
Cynhadledd undydd yw CFER â’r bwriad o weithredu fel llwyfan i’r diwydiant/ lleygwyr/darlithwyr allu dysgu am ymchwil yn y maes, gan nad oes cyfle gan lawer ohonynt i glywed am y datblygiadau gwyddonol diweddaraf yn enwedig os nad oes ganddynt y modd na’r amser i weld erthyglau mewn cyfnodolion.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant a threfnwyd cynhadledd arall yn 2011. Yn 2013 cynhwysodd Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain CFER yn rhan o’i rhaglen flynyddol o gynadleddau ac mae cynlluniau ar y gweill am un arall yn y fformat hwn yn 2015.
O ran y cais am statws Cymrawd Uwch, llwyddodd Debbie i ddangos sut mae wedi datblygu CFER dros y pedair blynedd diwethaf gan ddenu darlithwyr o brifysgolion a cholegau eraill yn gyson fel rhan o’u cynlluniau Datblygiad Personol Parhaus.
Yn ogystal, roedd yn bwysig dangos sut mae hi’n rhoi damcaniaethau addysgu ar waith mewn darlithoedd, sesiynau ymarferol ac asesiadau a disgrifiodd yn benodol sut mae’n cefnogi ac yn annog datblygiad proffesiynol y myfyrwyr uwchraddedig y mae’n gyfrifol amdanynt.
Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro IBERS; “Hoffwn longyfarch Dr Nash ar ei chyflawniad ardderchog. Mae’r dyfarniad yn dangos sut y gall menywod lwyddo ym Mhrifysgol Aberystwyth, a hoffwn annog eraill i sicrhau eu bod yn defnyddio pob ffordd y gallant i ddangos eu talentau niferus a’u llwyddiannau nid yn unig yn Aberystwyth ond yn y gymuned Addysg Uwch ehangach. Fe wnawn ni’n siŵr y caiff llwyddiant Dr Nash ei ddefnyddio i ysbrydoli ei chydweithwyr a myfyrwyr er mwyn iddynt allu ei efelychu.”
Dywedodd Dr Debbie Nash; “Fi yw’r ail berson i gael dyfarniad statws Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac rwy’n hynod o falch o fy llwyddiant.”
AU20614