Cynhadledd Flynyddol WISERD 2014

30 Mehefin 2014

Bydd un o ddigwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y gwyddorau cymdeithasol yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos yma (3-4 Gorffennaf). 

Mae Cynhadledd Flynyddol Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, yn dwyn ynghyd ymarferwyr, llunwyr polisïau a gwyddonwyr cymdeithasol i drafod themâu fel iechyd; gofal cymdeithasol; lles; addysg; diwylliant a gwerthoedd; yr amgylchedd; marchnadoedd llafur; datganoli; a chymdeithas sifil. 

Mae’r gynhadledd wedi ennill ei phlwyf fel digwyddiad pwysig yn y calendr gwyddor gymdeithasol, a bydd ymchwilwyr academaidd ac ymchwilwyr nad ydynt yn academaidd o ystod eang o ddisgyblaethau yn rhannu eu hymchwil yno. Mae’r digwyddiad yn hollbwysig i unrhyw un sy’n ymwneud â materion cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yng Nghymru gyfoes, a bydd mwy na 70 o bapurau’n cael eu cyflwyno eleni. 

Y ddau brif siaradwr yng nghynhadledd ddeuddydd eleni yw’r Athro Bob Jessop, Athro Nodedig Cymdeithaseg a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Economi Wleidyddol Ddiwylliannol (CPERC) ym Mhrifysgol Caerhirfryn; a’r Athro Karel Williams, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar Newid Cymdeithasol-ddiwylliannol (CRESC) a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ac Athro yn Ysgol Fusnes Manceinion. 

Bydd cyfle hefyd i weld llyfr newydd Dr Jon Anderson: Page & Place: Ongoing Compositions of Plot yn y digwyddiad cyn y gynhadledd, sef ‘Cartograffwyr Llenyddol Aberystwyth: archwilio’r berthynas rhwng llenyddiaeth a lle’ a gynhelir ddydd Mercher 2 Gorffennaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.  Bydd y digwyddiad yn archwilio’r berthynas rhwng llenyddiaeth a daearyddiaeth, gan ganolbwyntio ar rai o awduron cyfoes gorau Ceredigion. 

Eleni, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael y cyfle unigryw i weld arddangosfa boster ymchwil WISERD / Cymdeithas Sifil. Canolfan Ymchwil Genedlaethol newydd gwerth £7 miliwn a ariennir gan yr ESRC yw WISERD / Cymdeithas Sifil, sy’n ymgymryd â rhaglen bum mlynedd o ymchwil polisi yn ymwneud â Chymdeithas Sifil yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys sesiynau gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, Canolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru yr ESRC, Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ac Addysg WISERD. 

Dywedodd Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Ian Rees Jones, “Rydym ni’n falch iawn o groesawu prif siaradwyr mor neilltuol a nodedig i’r hyn sydd wedi datblygu i fod yn un o’r digwyddiadau pwysicaf yn y calendr gwyddor gymdeithasol yng Nghymru. 

“Mae cynnwys sesiynau gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, Addysg WISERD a Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn arbennig o gyffrous, gan ei fod yn rhoi tystiolaeth ychwanegol o gryfder ymchwil gwyddor gymdeithasol yng Nghymru. 

“Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys cyfres o bapurau yn arddangos ymchwil i gymdeithas sifil. Mae hwn yn faes pwysig ac un y bydd WISERD yn datblygu ymchwil bellach ynddo yn y dyfodol, yn sgil sefydlu Canolfan Ymchwil WISERD / Cymdeithas Sifil. Rydym ni hefyd yn falch o weld bod y gynhadledd yn parhau i dyfu, ac edrychwn ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o ystod o sectorau a disgyblaethau.”   

Sefydlwyd WISERD yn 2008 i ddwyn ynghyd ac ychwanegu at yr arbenigedd presennol mewn dulliau a methodoleg ymchwil meintiol ac ansoddol ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae WISERD, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ymgymryd â gweithgareddau ymchwil a datblygu capasiti sy’n sail i seilwaith ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ac economaidd ledled Cymru a thu hwnt. 

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD 2014 ar ddydd Iau'r 3ydd a dydd Gwener y 4ydd o Orffennaf yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth: www.wiserd.ac.uk/training-events/annual-conference-2014/

AU26414