Gwobrau mawreddog i ddau gyn-fyfyriwr Aber
Dr John Scally
26 Mehefin 2014
Fe wnaeth Dr John Scally, a benodwyd yn ddiweddar fel Prif Weithredwr a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, a Peter Keelan o Brifysgol Caerdydd, a gafodd ei anrhydeddu fel Llyfrgellydd y Flwyddyn Cymru yn ddiweddar, astudio cyrsiau ôl-raddedig yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae gan Dr Scally radd BA (Anrh) mewn Saesneg a Hanes Modern o Brifysgol Strathclyde, PhD mewn Hanes o Brifysgol Caergrawnt a Diploma mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth. Mae'n dechrau ar ei swydd newydd ym mis Medi.
Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Llyfrgell a Chasgliadau ym Mhrifysgol Caeredin ac yn cymryd drosodd oddi wrth gyd-alum o Aberystwyth, Martyn Wade, a ymddeolodd ddiwedd mis Mawrth. Cafodd Martyn radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth o Aberystwyth.
Dywedodd Dr Scally: “Mae'n anrhydedd mawr ac yn fraint i fod wedi cael fy mhenodi fel Prif Swyddog Gweithredol a Llyfrgellydd Cenedlaethol newydd y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod cyfnod pwysig yn ei hanes hir a disglair. Un o fy uchelgeisiau yw gwneud y Llyfrgell Genedlaethol yn ganolbwynt amlgyfrwng ar gyfer dysgu, ymchwil ac ysbrydoliaeth."
Mis diwethaf, cafodd Peter Keelan ei enwi fel y Llyfrgellydd y Flwyddyn yng Nghymru yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth (CILIP) Cymru.
Enillodd y categori Llyfrgell Academaidd a'r prif gategori Llyfrgellydd y Flwyddyn Cymru.
Mae Peter, a astudiodd MSc mewn Gweinyddu Archif yn Aberystwyth, yn Bennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau (SCOLAR) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r casgliad yn cynnwys 14,000 o lyfrau a phamffledi prin a printiedig cynnar sy'n dyddio o'r 15fed i'r 20fed ganrif.
Mae Llyfrgellydd y Flwyddyn Cymru yn cael ei chyflwyno i lyfrgellydd neu arbenigwr gwybodaeth broffesiynol sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i naill ai'r cymunedau y maent yn ei wasanaethu neu i'r proffesiwn yng Nghymru.
AU26614