Cyfarwyddwr newydd i IBERS
Yr Athro Mike Gooding
25 Mehefin 2014
Cyhoeddwyd heddiw, ddydd Mercher 25 Mehefin, taw’r Athro Mike Gooding yw Cyfarwyddwr newydd Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth.
Ar hyn o bryd mae'r Athro Gooding yn Athro Gwyddor Cnydau ac Agronomeg, a Phennaeth yr Ysgol Amaethyddiaeth, Polisi a Datblygu ym Mhrifysgol Reading.
Yn ogystal, ef yw Cyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Cnydau a Chyfarwyddwr Cwrs y radd BSc mewn Amaethyddiaeth.
Yn wreiddiol o Sussex, mae’r Athro Gooding yn raddedig o Brifysgol Birmingham a Harper Adams. Mae’r Athro Gooding yn academydd profiadol ac wedi datblygu ei yrfa drwy weithio gyda Sefydliad Ymchwil Tir Chwaraeon yn Bingley, y Coleg Amaeth Brenhinol yn sir Gaerloyw ac ers 1996, ym Mhrifysgol Reading.
Mae diddordebau ymchwil yr Athro Gooding yn mynd i'r afael â dwysáu amaethyddiaeth mewn modd cynaliadwy: yn benodol sut i wella’r modd y mae cnydau yn amsugno ac yn defnyddio maetholion er mwyn cynhyrchu mwy a chodi safon mewn amgylcheddau sy’n newid.
Mae'r gwaith yn archwilio dylanwadau genetig, hinsoddol ac agronomeg ar berfformiad cnydau ar gyfer bwyd a nodd i bobl, bwydydd anifeiliaid a defnydd diwydiannol.
Ar hyn o bryd mae'n Gyd-Gadeirydd Isadran Bioleg Systemau Cnydau'r Gymdeithas Agronomeg Ewropeaidd, a chyn hyn cafodd ei wahodd i ddarparu barn arbenigol i Awdurdod Tyfu Grawnfwyd Cartref, DEFRA a BBSRC.
Mae'n awdur ar 200 o gyhoeddiadau, ac mae ei ddiddordebau ymchwil a’i arbenigedd yn golygu ei fod wedi gwneud nifer sylweddol o gyflwyniadau ac wedi siarad mewn cynadleddau o bwys rhyngwladol a digwyddiadau ar draws y byd.
Wrth sôn am benodiad yr Athro Gooding, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon; "Rwy'n croesawu penodiad yr Athro Gooding yn gynnes iawn. Mae'n dod â chydbwysedd rhagorol o arweinyddiaeth a phrofiad gwyddonol a chefndir Prifysgol cryf. Mae'n amlwg yn ymwybodol o rôl hanfodol IBERS fel gyrrwr llwyddiant y Brifysgol a chyfrannwr allweddol i’r economi, ac mae ganddo awydd gwirioneddol i gyfrannu at Gymru a'r gymuned leol. Yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef, ac rwy'n hyderus y bydd cydweithwyr ar draws y Brifysgol yn frwdfrydig am ei benodiad a'i gyfraniad yn y dyfodol ".
Dywedodd yr Athro Gooding; “Mae IBERS yn amlwg yn sefydliad blaenllaw ac mewn sefyllfa eithriadol i ddarparu graddedigion, atebion a chynhyrchion i gynnal datblygiad, darparu bwyd a diogelwch ynni, ac i liniaru ac addasu i newid amgylcheddol. Yn naturiol, rwyf wedi fy nghyffroi gan y posibilrwydd o weithio gyda'r staff, y myfyrwyr a'r gymuned ehangach, wrth i ni ddylanwadu yn gadarnhaol ac eang yn y sectorau biolegol, amgylcheddol a gwledig”.
Dywedodd yr Athro Melanie Welham, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC); “Rydym yn falch iawn o groesawu'r Athro Gooding fel Cyfarwyddwr newydd IBERS. Mae ymchwil IBERS wedi ei gyflunio’n strategol â’r heriau mewn amaethyddiaeth, diogelwch bwyd, biotechnoleg ddiwydiannol a bio-ynni y mae cyllid y BBSRC yn anelu at fynd i'r afael â hwynt. Daw’r Athro Gooding â chyfoeth o brofiad a fydd yn cynorthwyo i wireddu manteision cymdeithasol ac economaidd pwysig y gwaith ymchwil hwn a pharhâd IBERS ar flaen y gad o ran gwyddor cnydau ac amaethyddiaeth yn y Deyrnas Gyfunol.”
Bydd yr Athro Gooding yn dechrau yn ei swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 1 Hydref 2014.
Mae’r Athro Gooding yn olynu'r Athro Wayne Powell a benodwyd yn ddiweddar yn Brif Swyddog Gwyddoniaeth y Grŵp Ymgynghorol ar Ymchwil Amaethyddol Rhyngwladol (CGIAR), a leolir yn Montpellier, Ffrainc.
Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.
Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol gan y Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru , DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd
Mae IBERS yn gweithio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol, gan ddatblygu a throsi ymchwil biowyddoniaeth arloesol yn atebion ar gyfer lliniaru effeithiau newid hinsawdd a heintiau planhigion ac anifeiliaid, a darparu ynni adnewyddol a diogelwch cyflenwad bwyd a dŵr.
AU26514