Her bioamrywiaeth i ffermio organig

Dr Peter Dennis, IBERS

Dr Peter Dennis, IBERS

24 Mehefin 2014

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 24 Mehefin) yn y cyfnodolyn gwyddonol Nature Communications mae angen gweithredu sydd wedi’i dargedu ar gyfer sicrhau bioamrywiaeth mewn amaethyddiaeth organig yn ogystal â systemau ffermio confensiynol.

Bu tîm rhyngwladol dan arweiniad Agroscope yn y Swistir, gan gynnwys tîm ymchwil o Brifysgol Aberystwyth yng ngofal y gwyddonydd o IBERS Dr Peter Dennis, yn gweithio ar brosiect BioBio, gan ymchwilio i’r cyfraniad mae ffermio organig yn ei wneud i ddiogelu bioamrywiaeth tir fferm.

Bu’r astudiaeth yn archwilio ffermydd mewn deg o ranbarthau yn Ewrop a dau yn yr Affrig oedd â systemau cynhyrchu gwahanol. Ym mhob rhanbarth, dewiswyd rhwng dwsin ac ugain o ffermydd ar hap, gyda hanner o’r rhain wedi’u hardystio’n organig ers o leiaf pum mlynedd. Ni osodwyd unrhyw gyfyngiadau ar weddill y ffermydd.

Mae’r papur “Gains to species diversity in organically farmed fields are not propagated at the farm level” Schneider M.K. et al. (2014) ar gael ar-lein yma.

Dechreuodd y gwaith yn 2010 gyda’r holl ganlyniadau yn cael eu casglu a’u cwblhau yn 2013 ac roedd diddordeb arben

nig gan yr ymchwilwyr yng ngraddfa’r fferm h.y. a yw ffermydd organig yn lletya mwy o rywogaethau na’u cymdogion anorganig.

Dywedodd Dr Peter Dennis; “Mae angen mwy na ffermio organig i gynnal bioamrywiaeth tir fferm.

“Cawsom ein synnu na welsom ni nifer uwch o gynefinoedd gwahanol ar ffermydd organig nag ar rai anorganig, ar gyfartaledd dros y deuddeg rhanbarth. Fodd bynnag, roedd yn amlwg fod amrywiaeth y cynefinoedd yn allweddol i amrywiaeth y rhywogaethau.

“Os yw’r cynefinoedd ychwanegol hyn yn wahanol i weddill y fferm, er enghraifft gwrychoedd mewn ffermydd glaswelltir neu leiniau llysieuol mewn ffermydd âr, maen nhw’n cael effaith enfawr ar y cyfoeth o rywogaethau ar fferm.

“Rydym ni’n argymell bod ffermwyr yn cynyddu’r nifer o gynefinoedd ar eu ffermydd, a gallwn drafod sut y gellir cyflawni hyn gyda ffermwyr sydd â diddordeb.”

Y prif fentrau ffermydd yr ymchwiliwyd iddynt yn yr astudiaeth achos yng Nghymru oedd cynhyrchu da byw.

Roedd pob un o’r ugain o ffermydd yng Nghymru (lle cynhaliwyd arolwg o gynefinoedd a phlanhigion; 16 am bryfaid genwair, pryfaid cop a gwenyn) wedi’u lleoli yng nghategorïau ymylon yr ucheldir, yr ucheldiroedd neu fryniau o fewn yr Ardal Lai Ffafriol.

Boed yn system reoli organig neu gonfensiynol, roedd pob fferm yn ymarfer rheolaeth dwysedd isel i ganolig, felly roedd llai o wahaniaeth wrth gymharu mewnbwn maethion a gweithrediadau mecanyddol.

Cofnodwyd enillion cyson o ran cyfanswm cyfoeth y rhywogaethau mewn grwpiau planhigion ac anifeiliaid a gofnodwyd mewn glaswelltir a reolwyd ar ffermydd organig o’u cymharu â ffermydd confensiynol.

Nid oedd enillion sylweddol o ran rhywogaethau yn unrhyw un o’r grwpiau dangosol ar lefel y fferm ar gyfer organig o’i gymharu â ffermydd confensiynol.

Un esboniad yw’r cyfoeth uchel o gynefinoedd ar draws y ddau gategori o ffermydd yng Nghymru, gyda chyfartaledd o 12-15 cynefin lled-naturiol gwahanol, ac un o’r astudiaethau achos rhanbarthol â’r gwerthoedd uchaf (y lleill yw Gasconi yn Ffrainc a Bafaria yn yr Almaen). Mae’r cynefinoedd lled-naturiol hyn yn cyfrif am y mwyafrif o rywogaethau ar fferm benodol.

Roedd ffermydd Cymru yn gyffredinol yn cynnal nifer uchel o rywogaethau o bryfaid cop ac roedd un fferm lle cofnodwyd y nifer uchaf o rywogaethau o bryfaid cop o blith pob un o’r 205 fferm ar draws Ewrop a gogledd a dwyrain Affrica!

Prosiect BioBio
Nod prosiect ymchwil BioBio, dan arweiniad Agroscope yn y Swistir o fewn seithfed raglen fframwaith yr Undeb Ewropeaidd, oedd datblygu dull i fesur bioamrywiaeth ar ffermydd.

Datblygodd y consortiwm rhyngwladol gyda chyfranogiad IBERS set o ddangosyddion bioamrywiaeth yr oedd angen iddynt fod yn wyddonol gadarn, y gellid eu defnyddio ledled Ewrop yn ogystal â bod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i grwpiau rhanddeiliaid.

Roedd y dangosyddion yn cynnwys geneteg, rhywogaethau, cynefinoedd a rheoli ffermydd. Er mwyn gallu eu mesur, caiff yr holl gynefinoedd ar fferm eu mapio yn ôl protocol safonol.

Ar lain a ddewiswyd ar hap ym mhob cynefin ar bob fferm, caiff yr holl rywogaethau planhigion, pryfaid genwair, pryfaid cop a gwenyn eu samplo a chaiff y gweithgareddau ffermio eu cofnodi.

Mae’r grwpiau rhywogaeth yn gwahaniaethu o ran eu gofynion mewn perthynas â chynefin gan weithredu fel dirprwyon i’r lliaws anghyffwrdd o greaduriaid ar dir y fferm.

Mae set dangosyddion BioBio yn caniatáu asesiad effeithlon o statws bioamrywiaeth ar fferm.

Rhagor o wybodaeth: www.biobio-indicator.org

http://www.agroscope.admin.ch/agrarlandschaft-biodiversitaet/04497/06803/index.html?lang=en

Herzog F. et al. (2013). Measuring Farmland Biodiversity. Solutions. 4: 4. http://www.thesolutionsjournal.com/node/23997 

IBERS
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol gan y Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru , DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.

AU25814