Aberystwyth yw’r lle mwyaf diogel i astudio yng Nghymru
24 Mehefin 2014
Prifysgol Aberystwyth yw’r Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mawrth, 24 Mehefin) gan y The Complete University Guide.
Mae Aberystwyth hefyd yn cadw ei safle ymhlith y pump uchaf o ran y lleoliad mwyaf diogel i astudio yng Nghymru a Lloegr.
Wedi’i lunio o ddata swyddogol gan yr heddlu, mae tabl cyngrair The Complete University Guide yn rhoi’r darlun cliriaf posibl o'r cyfraddau troseddu ar gyfer bron i 140 o brifysgolion a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r adroddiad yn edrych ar dair trosedd - byrgleriaeth, lladrad ac ymosodiadau - ac mae'n seiliedig ar raddfa gronedig gronnol y dair trosedd dros gyfnod o 12 mis o fewn radiws tair milltir o’r prif gampws.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr, yr Athro John Grattan; "Rydym yn gwybod o'n hymchwil fod y rhan fwyaf o'n myfyrwyr wedi dewis astudio yn Aberystwyth oherwydd ei fod yn le diogel a chyfeillgar.
“Rydym hefyd wedi canfod, wrth ofyn i'n myfyrwyr beth maen nhw'n ei hoffi am y dref, eu bod yn tueddu i gyfeirio at yr ysbryd cymunedol gwych sydd yma yn Aberystwyth. Mae’r myfyrwyr yn teimlo'n rhan o’r gymuned yn ystod eu hamser yma.
“Mae canlyniad yr adroddiad hwn yn destun balchder gan ei fod yn dangos ac yn cydnabod yr amgylchedd hyfryd sydd gennym yma, ac sy'n hanfodol ar gyfer boddhad myfyrwyr ac yn ein cysylltiadau gyda busnesau a’r gymuned leol.
Yn ol The Complete University Guide, amcangyfrifir bod un rhan o dair o fyfyrwyr yn ddioddefwyr o droseddau, yn bennaf dwyn a byrgleriaeth, ac mae tua 20 y cant o ladradau myfyrwyr yn digwydd yn ystod chwe wythnos gyntaf y flwyddyn academaidd.
Nid oes data swyddogol ar gyfer troseddau sy'n effeithio ar fyfyrwyr, felly mae The Complete University Guide wedi dewis y dair trosedd sydd fwyaf perthnasol i fyfyrwyr; byrgleriaeth, lladrad a throseddau treisgar.
Mae mwy o wybodaeth am yr adroddiad ar wefan Complete University Guide: http://www.thecompleteuniversityguide.co.uk/
AU26214