Lluniau anhygoel taith ofod Aberystwyth
Y falŵn dywydd wrth iddi rwygo ac i’r parasiwt agor © Dr Mark Neal, Prifysgol Aberystwyth University
13 Mehefin 2014
Cafwyd lluniau anhygoel o Gymru yn dilyn y daith ofod gafodd ei lansio o Ysgol Gymraeg Aberystwyth ddoe, ddydd Iau 12 Mehefin.
Lansiwyd y daith o gae chwarae'r Ysgol am 10.45 o’r gloch fore Iau 12 Mehefin gyda chymorth arbenigwr mewn roboteg o Brifysgol Aberystwyth.
Mae’r lluniau yn cynnwys golygfeydd rhyfeddol o Aberystwyth, canolbarth Cymru, Bae Ceredigion, Penrhyn Llyn, de orllewin Lloegr, ac un anhygoel o’r falŵn dywydd wrth iddi rwygo ac i’r parasiwt agor.
Cafodd y lluniau eu tynnu gan gamera GoPro o’r tu mewn i gapsiwl polystyrene a oedd wedi ei glymu at y falŵn dywydd.
Datblygwyd y dechnoleg ar gyfer y daith gan Dr Mark Neal, cydlynydd Grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a rhiant yn yr ysgol.
Yn ogystal â’r camera, roedd y capsiwl yn cynnwys dau olrheiniwr GPS a chyfrifiadur bychan i fesur uchder, tymheredd a sut mae’r falŵn yn symud.
Y pwynt uchaf a gofnodwyd ar y daith oedd 26,382.45m. Ond mae Dr Neal o’r farn y gallai fod wedi cyrraedd hyd at 32,000 metr gan fod yr offer ar fwrdd y capsiwl yn dangos bod y falŵn wedi parhau i godi am dipyn ar ôl nodi’r darlleniad uchaf.
Cafwyd amrywiaeth eang o dymheredd yn ystod y daith. Pan gafodd ei lansio roedd y tymheredd yn 22.3oC. Erbyn cyrraedd 2,800 metr roedd y tymheredd yn 7.7oC ac ar y pwynt uchaf yn y daith roedd wedi plymio i -38.39oC.
Cyfanswm amser y daith, o lansio i lanio, oedd 2 awr 51 munud. A’r pellter o’r man lansio i’r cae ger Llandrindod, lle glaniodd y capsiwl, oedd 49.6km.
Dywedodd Dr Neal: “Mae hwn wedi bod yn brofiad hyfryd ac mae brwdfrydedd plant Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi bod yn wych. O safbwynt technegol, rwy’n rhyfeddu bod popeth wedi mynd cystal, y lansiad a sut mae’r offer ar fwrdd y capsiwl wedi gweithio. Roedd hi’n syndod i mi hefyd pa mor hawdd fu hi i ddod o hyd i’r capsiwl wedi iddo lanio. A dweud y gwir, roeddwn yn disgwyl treulio dyddiau yn chwilio amdano!”
“Mae’r data a’r lluniau sydd gennym o’r daith yn golygu fod y cyfan wedi bod gwerth chweil. Er hyn, nid oedd y synwyryddion a gafodd eu defnyddio wedi eu paratoi ar gyfer gweithio mewn pwysedd a thymheredd isel tebyg i’r hyn a brofwyd ar y daith, felly mae angen cymryd y data gyda phinsiad o halen”, ychwanegodd.
Dywedodd Mr Clive Williams, Prifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth; “Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn hynod falch o gael bod yn lleoliad ar gyfer y daith gyffrous hon. O’r dechrau’n deg creodd y digwyddiad fwrlwm a chyffro yn yr ysgol ac awydd gwirioneddol ymysg y disgyblion i ddysgu mwy am y byd o'n cwmpas, yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddi, ac wrth gwrs, y gofod. Fel y byddech yn disgwyl gydag unrhyw daith i’r gofod, roedd elfen o ansicrwydd a fyddai popeth yn gweithio. Mae’r ffaith ein bod wedi dod o hyd i'r capsiwl mewn cae ger Llandrindod ac wedi cael y delweddau trawiadol a gymerwyd gan y camera yn profi tu hwnt i unrhyw amheuaeth fod hon wedi bod yn daith lwyddiannus iawn.
"Wrth gwrs, ni fyddai hyn i gyd wedi bod yn bosibl heb gyfranogiad y disgyblion, yr athrawon, y rhieni, y noddwyr a chyfeillion lawer o Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth”, ychwanegodd.
Datblygwyd y daith gan ddisgyblion, staff a rhieni Ysgol Gymraeg Aberystwyth gyda chefnogaeth Eco-Sgolion Cymru http://www.keepwalestidy.org/eco-sgolion, yr animeiddiwr Tim Allen http://www.timallenanimation.co.uk/ / @TimAnimation, Ffotograffiaeth Keith Morris http://www.artswebwales.com/ a Ultracomida http://www.ultracomida.co.uk/.
Gellir dilyn blog Mark Neal ar y daith yma http://markonstuff.blogspot.co.uk/2014/05/ysgol-gymraeg-prosiect-gofod-high.html.
AU25014