San Francisco yn galw i dîm Sailbot Aber
Daniel Clark (chwith), Ashley Iles and Louis Taylor o dîm Sailbot Aber
02 Mehefin 2014
Bydd tîm yn cynnwys tri o fyfyrwyr israddedig Prifysgol Aberystwyth o'r Adran Gyfrifiadureg yn cystadlu yn y ddiweddarach yr wythnos hon (dydd Sadwrn 7 Mehefin 2014) yn Sailbot2014, cystadleuaeth flynyddol hwylio robotiaid sy'n cael ei chynnal eleni yn San Francisco.
Ers 2012 , mae tîm Sailbot Aber wedi bod yn creu ac yn cystadlu mewn cystadlaethau hwylio robotiaid annibynnol, ac yn Sailbot2013 cipiodd y tîm y drydedd safle ac ennill y wobr am y Bensaernïaeth Ffynhonnell Agored Orau ym Mhencampwriaethau'r Hwylio Roboteg y Byd yn Ffrainc y llynedd.
Mae'r cychod eu hunain yn robotiaid ac yn cael eu rheoli gan y system GPS ddiweddaraf sy'n eu galluogi i lywio eu hunain o amgylch unrhyw gwrs, yn debyg i system Sat-Nav.
Rhaid i bob tîm adeiladu a rhaglennu cwch hwylio annibynnol i gystadlu mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau yn erbyn timau eraill heb unrhyw ryngweithio dynol i reoli'r cwch.
Eglurodd Daniel Clark, myfyriwr Cyfrifiadureg yn ei ail flwyddyn ac aelod o dîm Aber Sailbot; "Roeddem yn benderfynol o osod her fwy i ni ein hunain ac adeiladu cwch llawer mwy a chyflymach ar gyfer Sailbot2014 yn San Francisco."
"Mae ein systemau yn cael eu gyrru gan gyfrifiadur Raspberry Pi bach sy'n rhyngwynebu gyda'r rhan fwyaf o weddill y cwch trwy fwrdd Arduino Uno."
Mae'r tîm hefyd yn cynnwys Louis Taylor ac Ashley Iles, myfyrwyr sydd hefyd yn eu hail flwyddyn yn Aberystwyth.
Mae eu cwch newydd, Kitty, wedi cael ei ddylunio a'i adeiladu i gystadlu yn yr Unol Daleithiau, a bydd yn cystadlu yn erbyn timau cryf megis Academi Llynges yr Unol Daleithiau, Prifysgol Columbia Brydeinig a Virginia Tech.
"Ni yw'r unig dîm sy’n cystadlu sydd o du allan i Ogledd America," meddai Louis Taylor sy’n 19 mlwydd oed ac yn fyfyriwr Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg yn Aberystwyth.
"Mae'n mynd i fod yn anodd, ond rydym yn hapus iawn â'r hyn yr ydym wedi ei gynhyrchu ac rydym yn edrych ymlaen at yr her. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Adran Gyfrifiadureg yma yn Aberystwyth ac i'r noddwyr: QinetiQ, ARM, The Raspberry Pi Foundation, Embedded Bits, Kano Computing a Kneath Associates."
"Rydym fodd bynnag bob amser yn chwilio am ragor o noddwyr a chyllid, felly os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â ni.”
AU18914