Wythnos Cychwyn Busnes

27 Mai 2014

Bydd rhaglen bryfoclyd o weithdai sgiliau busnes am ddim yn cael eu cynnal rhwng 2-6 Mehefin fel rhan o ddigwyddiad blynyddol Wythnos Cychwyn Busnes Prifysgol Aberystwyth.

Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am ddechrau eich busnes eich hun, am droi eich syniad yn realiti neu os oes gennych syniad rydych yn barod wedi’i ddechrau yr hoffech ei archwilio ymhellach, bydd Wythnos Cychwyn Busnes yn ddelfrydol i chi.

Mae'r wythnos wedi ei gynllunio o amgylch y materion allweddol sy'n wynebu rhywun sydd yn cychwyn busnes ac mae'n cynnig ysbrydoliaeth a phrofiad uniongyrchol gan entrepreneuriaid llwyddiannus, arweiniad ymarferol, cyfeiriad a chyfleoedd rhwydweithio.

"P'un ai rydych yn awyddus i ddarganfod mwy am fynd yn hunan-gyflogedig neu wedi dechrau menter newydd yn ddiweddar ac angen rhywfaint o arweiniad, dewch draw i'r Wythnos Cychwyn Busnes," esboniodd Tony Orme, Rheolwr Menter yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi.

"Y manteision eraill o ddod i’r digwyddiad yma yw ei fod yn gyfle i gyfarfod ag entrepreneuriaid eraill o’r un anian ac yn gyfle i adeiladu rhwydwaith gefnogi i’w ddefnyddio wrth ddatblygu eich syniad busnes.”

Bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar hyfforddiant sgiliau busnes hanfodol a fydd yn cynnwys sesiynau ar sut i reoli eich busnes eich hun; ymchwil marchnad, marchnata a marchnata digidol; prisio & chostio a chynllunio ariannol & rheoli yn ogystal âg eiddo deallusol.

Mae'r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb gan gynnwys myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, staff a graddedigion. Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ar un neu fwy o weithdai, cysylltwch â Tony Orme ar awo@aber.ac.uk / 01970 622203 neu ewch i’r wefan: www.aber.ac.uk/crisalis

AU22314