Gŵyl Beicio Aberystwyth 2014

Gŵyl Beicio Aberystwyth

Gŵyl Beicio Aberystwyth

20 Mai 2014

Bydd Aberystwyth yn gweld rhaglen lawn o feicio dros y penwythnos pan fydd Gŵyl Beicio Aberystwyth yn dychwelyd am y bumed flwyddyn yn olynol rhwng 23-25 ​​Mai.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir mewn partneriaeth â'r Brifysgol, yn croesawu rhai o feicwyr gorau Prydain ac yn cynnwys nifer fawr o weithgareddau dros y tri diwrnod.

Ddydd Gwener (23 Mai), bydd ffyrdd Aberystwyth ar gau ar gyfer y gyfres teledu Tour Series criterium.

Mae'r cwrs un cilometr yn troelli ei ffordd o amgylch adeilad eiconig yr Hen Goleg sy’n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y castell canoloesol a’r pier Fictorianaidd ac yn cyffwrdd hefyd â chanol y dref. Mae’n gaddo bod yn ddiwrnod penigamp o adloniant i bobl o bob oed.

Bydd y digwyddiad rasio beic mynydd lawr allt yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 24 Mai ar Graig Glais ac ar ddydd Sul 25 Mai, mae tri llwybr o wahanol bellteroedd i ddewis ohonynt ar gyfer beicwyr gan gynnwys taith 26, 70 neu 114 milltir.

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma: http://www.abercyclefest.com/

AU14714