Tywydd eithafol a newid hinsawdd

Dr Sarah Davies (chwith) a Dr Cerys Jones

Dr Sarah Davies (chwith) a Dr Cerys Jones

07 Mai 2014

Bydd darlith gyhoeddus yr wythnos hon yn archwilio sut y gall cofnodion hanesyddol o ddigwyddiadau tywydd eithafol yng Nghymru ein cynorthwyo i ddeall sut y gallwn ddelio â thywydd eithafol heddiw.

Yn ogystal â thynnu sylw at Aberystwyth a gorchuddio’r prom gyda thywod y traeth, golygodd stormydd y gaeaf fod y trafod am dywydd eithafol a newid hinsawdd yn agos iawn at adref.  

Mae Dr Cerys Jones a Dr Sarah Davies o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio ystod o ddeunyddiau archifol, gan gynnwys llythyrau, cyfnodolion, papurau newydd a chofnodion cyhoeddus i nodi cyfnodau o dywydd anarferol ac eithafol yng Nghymru.

Maent yn archwilio sut y gwnaeth cymunedau ac unigolion ymdopi â digwyddiadau o'r fath yn y gorffennol, a chymharu hyn gyda phrofiadau diweddar yma yng ngorllewin Cymru.

Mae'r ymchwil hwn yn rhan o brosiect ar draws y DG sydd yn ymchwilio i amrywioldeb hanesyddol yr hinsawdd, eithafion tywydd ac ymatebion cymdeithasol.

Cynhelir y sgwrs am 6.30pm ar ddydd Iau 8 Mai yn Adeilad Edward Llwyd ar Gampws Penglais y Brifysgol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei darlledu ar wefan Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru yn www.c3wales.org, lle ceir hefyd fanylion am ddarlithoedd sydd i ddod a recordiadau o ddarlithoedd a gynhaliwyd eisoes.

 

AU18414