Ffibr Tywyll

Chwith i’r Dde: Christine Featherstone, Rheolwr Datblygu Busnes Pinacl Solutions, Tim Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, Rob Bardwell, Rheolwr Gyfarwyddwr Pinacl Solutions, a Hefin Jones, Rheolwr Grŵp Seilwaith TGC ym Mhrifysgol Aberystwyth yn nodi trosglwyddo’r Rhwydwaith Ffibr Tywyll i berchnogaeth y Brifysgol.

Chwith i’r Dde: Christine Featherstone, Rheolwr Datblygu Busnes Pinacl Solutions, Tim Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, Rob Bardwell, Rheolwr Gyfarwyddwr Pinacl Solutions, a Hefin Jones, Rheolwr Grŵp Seilwaith TGC ym Mhrifysgol Aberystwyth yn nodi trosglwyddo’r Rhwydwaith Ffibr Tywyll i berchnogaeth y Brifysgol.

01 Mai 2014

Bydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy'n byw yn llety glan môr y Brifysgol yn gallu mwynhau mynediad cyflym iawn i'r rhyngrwyd yn dilyn gosod Rhwydwaith Ffibr Tywyll newydd.

Bu’r Brifysgol yn gweithio ar y cynllun gyda Pinacl Solutions, a buddsoddwyd dros chwarter miliwn o bunnoedd yn y rhwydwaith newydd sy'n cysylltu Campws Penglais gyda'r llety glan môr lle mae 450 o fyfyrwyr yn byw.

Mae'r Rhwydwaith Ffibr Tywyll newydd yn cysylltu wyth o adeiladau'r Brifysgol, yn ymestyn dros bellter o 3,400m, yn cynnwys dros 58,000m o ffibr singlemode, ac yn weithredol o 30 Ebrill.

Mae'r datblygiad newydd yn golygu y bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad i ddeunydd amlgyfrwng a fideo ar y rhyngrwyd yn llawer cyflymach nag o'r blaen.

I ddechrau, bydd y rhwydwaith ardal eang yn rhedeg ar 1 Gigabeit yr eiliad, gan hwyluso cyflymder lawr lwytho sy'n llawer cyflymach na'r hyn a brofir gan y rhan fwyaf o bobl drwy eu band eang cartref. Ar gyfer y dyfodol gall y rhwydwaith ddarparu cyflymder o 10 Gigabeit yr eiliad a thu hwnt.

Fel arfer mae hyd oes Rwydwaith Ffibr Tywyll yn hwy na 30 mlynedd. Disgwylir i'r rhwydwaith newydd arwain at arbedion ariannol sylweddol o'i gymharu â'r trefniant blaenorol lle’r oedd y Brifysgol yn talu rhent am ddefnyddio llinellau ar brydles.

Gan for y rhwydwaith yn eiddo i’r Brifysgol mae hefyd yn cynnig mwy o hyblygrwydd a rheolaeth dros ba mor llydan yw’r band.

Dywedodd Tim Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth; “Wrth i raglenni academaidd y Brifysgol a gweithgareddau hamdden gynnwys mwy a mwy o ddeunydd amlgyfrwng, mae cynyddu anhygoel yn yr hyn rydym yn disgwyl i’r rhwydwaith band llydan lleol ei wneud.

“Mae Ffibr Tywyll yn caniatáu i ni redeg ein rhwydwaith ardal eang ar gyflymder sy'n ofynnol i fodloni gofynion presennol ar gyfer mynediad cyflym iawn i'r rhyngrwyd, ond mi fydd hefyd yn caniatáu i ni gynyddu cyflymder yn unol â'r galw yn y dyfodol.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu mynediad wifi am ddim i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol sy'n cynnig gwasanaeth cyflymach na'r hyn a ddarperir gan y rhan fwyaf o wasanaethau 3G yn ardal Aberystwyth.

Mae myfyrwyr sy'n byw yn y neuaddau glan y môr yn gallu cysylltu â’r gwasanaeth cyflym newydd drwy rwydwaith wifi’r Brifysgol neu drwy gysylltu’u cyfrifiaduron gyda’r rhwydwaith yn uniongyrchol.

 

AU15714