AMBA yn achredu graddau Meistr mewn Rheolaeth

15 Ebrill 2014

Mae wyth rhaglen gradd Meistr mewn Rheolaeth (MSc) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi eu hachredu'n llawn gan AMBA, y Gymdeithas MBA. 

Mae AMBA http://www.mbaworld.com/ yn achredu rhaglenni MBA, DBA a MBM mewn mwy na 200 o ysgolion busnes mewn mwy na 80 o wledydd. 

Prifysgol Aberystwyth yw’r unig Brifysgol yng Nghymru i dderbyn yr achrediad hwn.

Mae pedair rhaglen Meistr wedi derbyn achrediad AMBA am y tro cyntaf: Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Gorfforaethol; Rheolaeth a Rheolaeth Twristiaeth; Rheolaeth a Busnes Digidol; Rheolaeth a Rheolaeth Prosiectau. 

Adnewyddwyd achrediad pedair rhaglen Meistr gan AMBA: Rheolaeth Menter ac Arloesi; Rheolaeth Busnes Rhyngwladol; Rheolaeth a Chyllid; Rheolaeth a Marchnata. 

Esboniodd yr Athro Steven McGuire, Cyfarwyddwr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn Aberystwyth; "Gyda chymaint o raddau MSc a MBA ar gael, mae ansawdd y cyrsiau yn hanfodol. Mae'r anrhydedd AMBA yn cynrychioli stamp o ansawdd i’r Ysgol, y Brifysgol, ei rhaglenni, addysgu, cyfleusterau ac ymchwil. 

"Golyga’r achrediad hwn fod graddedigion yn derbyn cymhwyster sy’n cael ei gydnabod rhyngwladol, sy’n gwella gwerth eu gradd a'u dyfodol fel rheolwyr ac ymarferwyr proffesiynol." 

Mae achrediad AMBA yn cynrychioli’r safon uchaf o gyflawniad mewn addysg busnes ôl-raddedig. 

Derbyniodd yr Ysgol ennill sawl canmoliaeth gan banel AMBA, yn enwedig mewn perthynas ag ansawdd ac ymroddiad y staff academaidd a gweinyddol, ac am y cyfleusterau sydd ar gampws Llanbadarn. 

Derbyniwyd cymeradwyaeth gan y panel hefyd am y buddsoddiad sylweddol a wnaed yn y gefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol ac offer addysgu newydd. 

2006 oedd y tro cyntaf i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes gael ei hachredu gan y Gymdeithas, a gwnaed hyn eto ym mis Hydref 2011. Ers hynny, cynlluniwyd pedair gradd MSc newydd a chymeradwywyd pob un ohonynt gan y panel achredu diweddaraf. 

Ychwanegodd yr Athro McGuire; “Nid yn unig bydd y rhai sy'n astudio gyda ni yn ymuno â chymuned o fyfyrwyr o ansawdd uchel o bob cwr o'r byd, ond byddant hefyd yn dod yn rhan o rwydwaith busnes byd-eang sydd yn cynnwys uwch reolwyr, cyfarwyddwyr bwrdd a Phrif Swyddogion Gweithredol. 

“Bydd y cysylltiad yn agor cyfleoedd amhrisiadwy i rwydweithio a rhyngweithio gyda gweithwyr proffesiynol ac uwch ymarferwyr busnes o ystod eang o ddiwydiannau.” 

Y llynedd, buddsoddwyd £3.5m yng Nghampws Llanbadarn, cartref yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn Aberystwyth. Cafodd  pum adeilad eu hadnewyddu er mwyn cynnig y diweddaraf mewn ystafelloedd addysgu, gofod addysgu nad yw’n draddodiadol, gofod cymdeithasol ac adnoddau technoleg gwybodaeth. 

Dywedodd yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr yr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth ac Athro mewn Entrepreneuriaeth; “Mae'r panel achredu AMBA yn llawn edmygedd o'r gwaith mae'r Brifysgol wedi’i wneud i ailwampio Canolfan Llanbadarn drwy ddarparu cyfleusterau addysgu o safon ardderchog ar gyfer y myfyrwyr. 

"Mae derbyn y datganiad hwn o gefnogaeth i’r buddsoddiad sydd wedi ei wneud gan y Brifysgol yn yr Athrofa newydd, a’r gwaith sy'n cael ei wneud i ddarparu profiad rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig, yn destun llawenydd.” 

Mae derbyn achrediad yn rhoi hygrededd a statws rhyngwladol i ysgolion busnes. Mae nifer y cymwysterau sydd ar gael ledled y byd mewn MSc yn awr yn y miloedd, ond dim ond canran fechan o'r rhain fyddai yn cyflawni achrediad petaent yn cael eu cyflwyno i'r meini prawf rhyngwladol llym a osodir gan AMBA. 

Mae achrediad gan Gymdeithas MBA yn nodi rhaglenni fel y gorau a geir. Mae natur ddatblygiadol y broses achredu yn aml yn cynorthwyo ysgolion busnes i adnabod diffygion posibl yn eu rhaglenni, ac mae’r adroddiad cynhwysfawr ac ymgynghorol yn amlinellu argymhellion ar gyfer gwella darpariaeth yn y dyfodol. 

Mae rhagor o wybodaeth am raglenni Meistr yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar gael ar-lein: http://www.aber.ac.uk/cy/smb/

AU13114