Cyhoeddi Cynllun Iaith newydd

Chwith i’r Dde: Mari Elin Jones, Rheolwr Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor; Gwenno Piette, Swyddog Datblygu'r Gymraeg, Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Y Gymraeg a Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol; Syr Emry Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth a Gwenan Davies o Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg

Chwith i’r Dde: Mari Elin Jones, Rheolwr Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor; Gwenno Piette, Swyddog Datblygu'r Gymraeg, Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Y Gymraeg a Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol; Syr Emry Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth a Gwenan Davies o Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg

11 Ebrill 2014

Cyhoeddwyd Cynllun Iaith Gymraeg newydd gan Brifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Gwener 11 Ebrill 2014.

I gyd-fynd gyda’r cyhoeddiad, mae’r Brifysgol wedi lansio ffilm fer sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac yn esbonio ychydig am y Cynllun Iaith a’i amcanion.

Bu’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Iaith ers 2003 ac mae’r Cynllun Iaith diwygiedig yn adlewyrchu’r newidiadau strwythurol a fu yn sgîl mabwysiadu trefn Athrofaol newydd gan y Brifysgol ym mis Awst 2013.

Yn dilyn sefydlu’r Athrofeydd, penodwyd saith Cyfarwyddwr â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, cam arloesol sydd yn golygu fod pencampwr penodol dros y Gymraeg ym mhob Athrofa.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a Chysylltiadau Allanol; “Mae hwn yn gyfnod o gryn drafod a datblygiad yn strategaethau’r Brifysgol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg, ac mae cyhoeddi’r Cynllun Iaith newydd hwn yn garreg filltir bwysig.

“Ers mabwysiadau Cynllun Iaith cyntaf y Brifysgol gwelwyd dull mwy systematig o weithredu polisi dwyieithog ac o ddarparu mwy o wasanaethau Cymraeg i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd.  Gwelwyd hefyd dwf sylweddol yn y ddarpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg yn sgîl buddsoddi gan y Brifysgol ei hun, ac mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Er mwyn adeiladu ar hyn mae’r Cynllun Iaith newydd yn cynnwys Strategaeth Sgiliau Dwyieithog sydd yn golygu fod gofynion ieithyddol pob swydd bellach yn cael eu pennu mewn modd systematig er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn meddu ar y sgiliau ieithyddol angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

“Mae hefyd yn bwysig ein bod yn esbonio’r cynllun i holl aelodau staff y Brifysgol er mwyn ennyn eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth.  Mae’r ffilm fer sydd wedi ei chreu yn un ffordd o gyflawni hyn.  Byddwn yn datblygu dulliau eraill o gyfleu hanfodion y polisi dwyieithog a’n hymrwymiadau yn y Cynllun Iaith.”

Mae cymeradwyo’r Cynllun Iaith newydd yn mynd law yn llaw â chyhoeddiad diweddar y Brifysgol ei bod yn datblygu Cynllun Cyfannol i’r Gymraeg.

Y Cynllun Cyfannol fydd yn disgrifio ac yn rhoi elfennau hyrwyddo a hybu’r Gymraeg a amlinellir yn y Cynllun Iaith ar waith.

Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg y Brifysgol sydd yn gyfrifol am weithredu’r Cynllun Iaith o ddydd i ddydd.

AU8614