Dathlu rhagoriaeth mewn dysgu
Dathlu rhagoriaeth mewn dysgu: (Chwith i’r Dde) Yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor; Dr Basil Wolf, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Dr Steve Atherton, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes; Mary Jacob, Y Tîm E-ddysgu; Dr Victoria Wright, Adran Seicoleg; Dr Liz Hart, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor.
07 Ebrill 2014
Dr Madeline Carr o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Dr Victoria Wright o’r Adran Seicoleg yw cyd-enillwyr Gwobr Cwrs Eithriadol Prifysgol Aberystwyth 2014.
Sefydlwyd Gwobrau Cwrs Eithriadol Prifysgol Aberystwyth gan Dîm E-ddysgu’r Brifysgol, sy’n cefnogi dysgu ac addysgu trwy gyfrwng technoleg. Dyfernir y gwobrau hyn yn flynyddol i anrhydeddu modiwlau sy’n dangos arfer eithriadol mewn pedwar maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu a chymorth dysgu.
Seiliwyd y meini prawf ar gyfer y gwobrau ar raglen ryngwladol Cyrsiau Eithriadol Blackboard (ECP).
Dywedodd Mary Jacob, a fu’n gyfrifol am ddechrau’r cwrs; “Gwnaethom y penderfyniad i ddefnyddio ECP gan ei fod yn ymgorffori’r un egwyddorion o ymarfer da sy’n cael eu cydnabod yn y sector Addysg Uwch yn y Deyrnas Gyfunol. Rwy’n falch iawn ein bod yn medru rhannu ymarfer gwych yma yn Aberystwyth gyda’r gymuned ehangach.”
Fel rhan o Wobr Cwrs Eithriadol Prifysgol Aberystwyth, darparodd Tîm E-ddysgu’r Brifysgol hyfforddiant i helpu staff i ddefnyddio cyfarwyddiadau ECP Blackboard i wella eu modiwlau.
Drwy ddefnyddio’r cyfarwyddiadau, gall staff werthuso i ba raddau mae eu cwrs yn cydymffurfio â’r arferion gorau a amlinellir yn y cyfarwyddiadau.
Dyfarnwyd y wobr i Dr Madeline Carr am ansawdd uchel cynllun ei chwrs a gweithrediad y modiwl ‘International Politics and the Cyber Dimension’.
Dywedodd Madeline; “Darparodd ECP Blackboard fframwaith ardderchog imi feddwl yn feirniadol am safle fy modiwl.
“Roedd y tîm Blackboard yma ym Mhrifysgol Aberystwyth bob amser ar gael i’m helpu i ymgorffori unrhyw nodweddion oedd yn anghyfarwydd i mi.
“Mae adborth fy myfyrwyr ynglŷn â Blackboard wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt.
“Byddaf yn bendant yn parhau i geisio gwella fy safle i’w gwneud yn rhywbeth sy’n helpu i gynorthwyo ac ennyn diddordeb myfyrwyr wrth iddynt ddysgu."
Mae cyd-enillydd y wobr, Dr Victoria Wright, wedi gweithio gyda’i chydweithwyr i ddatblygu’r modd y cyflwynir y modiwl gradd ‘Introduction to Psychology’ ar-lein.
Mae yna lu o ddeunyddiau ar-lein ar gyfer y modiwl hwn, gan gynnwys recordiadau o bob darlith, a Blackboard yw’r canolbwynt ar gyfer holl weithgarwch myfyrwyr y modiwl, gan gynnwys trafod, darllen a chyflwyno gwaith.
Eglurodd Victoria; “Roedd yr hyfforddiant ECP yn hynod ddefnyddiol gan ei fod yn gwneud i chi ystyried sut rydych yn defnyddio Blackboard wrth ddysgu.
“Roedd hefyd yn dangos sut y gellir gwella profiad dysgu’r myfyrwyr drwy ddefnyddio cyfarwyddiadau yr EPC.
“Mae’n hawdd rhoi’r cyfarwyddiadau ar waith, ac mae’n ffordd wych o wella’ch modiwl mewn modd sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.
“Rwy’n gwybod bod fy modiwl yn well o lawer nag yr oedd y llynedd – ac mae’n ymddangos bod fy myfyrwyr yn cytuno!"
Meddai’r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr: “Rydym wedi gwneud buddsoddiad gwirioneddol yn yr amgylchedd dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Rydym yn hyrwyddo dysgu cyffrous, arloesol, deinamig a heriol fel rhan hanfodol o’r hyn a wnawn, ac rydym yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth.
“Mae’r ffaith ein bod wedi derbyn cynifer o geisiadau uchel eu hansawdd ar gyfer y Gwobrau Cwrs Eithriadol Prifysgol Aberystwyth blynyddol cyntaf yn dangos bod gennym garfan o ddarlithwyr sy’n awyddus i greu amgylchedd dysgu cyfoethog a chynhyrchu deunyddiau dysgu sydd gyda’r gorau yn y byd.”
Cafodd pob un o’r ceisiadau a dderbyniwyd gan banel adolygu’r Gwobrau Cwrs Eithriadol gydnabyddiaeth am ddangos arferion da.
Cafodd gwaith Dr Tom Holt (Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) a Hannah Dee (Adran Cyfrifiadureg) ganmoliaeth uchel.
Yn ogystal, canmolwyd gwaith Dr Steve Atherton (Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes), Dr Liz Hart (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig), Mr Matthew Richards (Adran Ieithoedd Ewropeaidd) a Dr Basil Wolf (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig).
Cyflwynwyd y gwobrau i’r ymgeiswyr buddugol yng Nghynhadledd Cyfeiriadau’r Dyfodol yr Academi Addysg Uwch a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar 3 Ebrill 2014.
I weld cyfweliad lle mae Dr Madeline Carr yn esbonio pwysigrwydd a manteision rhoi’r profiad ar-lein wrth galon dysgu modiwlau, ewch i: http://www.cadarn.ac.uk/putting-the-online-experience-at-the-heart-of-a-module/, ac i weld Dr Victoria Wright yn trafod sut y bu’n gweithio i wella’r profiad myfyriwr ar-lein, ewch i: http://www.cadarn.ac.uk/video-improving-the-online-student-experience/.
Gwahoddir staff sydd â diddordeb mewn defnyddio’r rubric neu wneud cais am y wobr hon y flwyddyn nesaf, i ymweld â’r wefan http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/AU+Exemplary+Course+Award.
AU14014