Dyfodol Pantycelyn
Pantycelyn
04 Ebrill 2014
Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu’r cytundeb heddiw gydag UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) i weithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu Cynllun Busnes ar ddefnydd Neuadd Pantycelyn i’r dyfodol fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant.
Mae hyn yn cynnwys datblygu opsiynau manwl ar gyfer parhad Pantycelyn fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr y Gymraeg.
Yn sgìl ymgynghori gydag aelodau o staff dysgu’r Brifysgol a Changen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Brifysgol wedi datblygu cynnig a fydd yn gweld y Brifysgol ac UMCA yn cydweithio’n agos ar y Cynllun Busnes.
Gobaith y Brifysgol yw y bydd y Ganolfan Gymraeg a Diwylliant yn gweithredu fel canolbwynt i’n cymuned Gymraeg gyfan, gan gynnwys myfyrwyr, staff ynghyd â’r gymuned ehangach.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i ddenu myfyrwyr Cymraeg i Aberystwyth ac i hybu’r modd y maent yn cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy’n ehangu ynghyd ag ystod mor eang â phosib o gyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg.
Ar hyd yr adeg, bwriad datblygu llety cyfrwng Cymraeg o safon uchel fel rhan o ddatblygiad £45m Fferm Penglais oedd sicrhau bod myfyrwyr sy’n medru neu’n dysgu’r Gymraeg yn mwynhau llety a chyfleusterau cymunedol o’r radd flaenaf, a gyda’r gorau mewn unrhyw brifysgol.
Mae datblygiad Fferm Penglais wedi bod yn amcan a ddiffiniwyd yn hollol glir gan y Brifysgol ers bron i 6 mlynedd. Bu cynrychiolwyr y myfyrwyr, gan gynnwys Llywydd UMCA a Llywydd Undeb y Myfyrwyr, yn rhan lawn o’r ymgynghoriad ar hyd y ffordd.
Nid yw’r cynnig yn effeithio ar gynlluniau'r Brifysgol ar gyfer llety cyfrwng Cymraeg ar Fferm Penglais.
O fis Medi 2014, bydd myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a’r rhai sy’n ei dysgu, yn medru dewis rhwng llety arlwyo ym Mhantycelyn, a llety hunan arlwyo ar Fferm Penglais.
AU14414