Cynhadledd Cyfeiriadau'r Dyfodol 2014

Cyfeiriadau’r Dyfodol ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru

Cyfeiriadau’r Dyfodol ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru

03 Ebrill 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ail gynhadledd Cyfeiriadau'r Dyfodol 'Graddedigion byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg' ar 2 a 3 Ebrill 2014.

Trefnir y gynhadledd gan Academi Addysg Uwch Cymru, ac mae’n dwyn ynghyd unigolion a grwpiau sy'n ymwneud â gwella profiad dysgu myfyrwyr.

Mae'r digwyddiad deuddydd yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd cyweirnod a sesiynau papur, poster a gweithdy ym meysydd graddedigion nodedig, addysgu ysbrydoledig, dysgu ar gyfer cyflogaeth, teithiau dysgwyr, a myfyrwyr fel partneriaid.

Y prif siaradwyr yw’r Athro Ron Barnett, Athro Emeritws Addysg Uwch yn y Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain a'r Athro Shan Wareing, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu ac Addysgu, Buckinghamshire New University.

AU14214