Ailasesu’r diwygiwr Eingl-Americanaidd mawr, George Whitefield
Dr David Ceri Jones
02 Ebrill 2014
Crefydd efengylaidd yw un o'r mudiadau crefyddol mwyaf deinamig, cyflymaf ei dwf yn y byd heddiw.
Er ei bod yn parhau’n rym egniol yn yr Unol Daleithiau, a chafwyd tystiolaeth o hyn pan yr etholwyd Arlywydd efengylaidd yn ddiweddar, gwelwyd y twf ymhell y tu hwnt i’w chadarnleoedd traddodiadol Saesneg, mewn gwledydd megis Tsieina, De Corea, America Ladin ac ardaloedd o is-Sahara Affrica.
Mae gwreiddiau mudiad efengylaidd byd-eang y cyfnod hwn yn y diwygiadau crefyddol a ysgubodd byd yr Iwerydd Prydeinig yn negawdau canol y ddeunawfed ganrif.
Mae Dr David Ceri Jones o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn grant o £115,527 gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i ddeall y mudiad efengylaidd cynnar yn well drwy ailasesiad o fywyd, cyd-destun ac etifeddiaeth ei dyfeisiwr a’i brif ysbrydoliaeth, y diwygiwr traws-Iwerydd, George Whitefield (1714-1770).
Yn ôl pob tebyg George Whitefield, a groesodd yr Iwerydd o leiaf ddwsin o weithiau rhwng 1738 a 1770, oedd ffigur crefyddol enwocaf y ddeunawfed ganrif.
Roedd yn bregethwr carismataidd a byddai’n annerch rhai o’r cynulleidfaoedd mwyaf a gofnodwyd erioed yn Llundain, Bryste, Boston a Philadelphia; torfeydd o ugain neu ddeng mil ar hugain, a llawer mwy o bryd i'w gilydd.
Roedd Whitefield yn arloeswr yn y defnydd o gyfathrebu torfol, a chyfrannodd at ledaenu Methodistiaeth, yn enwedig ei fersiwn ei hun o Fethodistiaeth Galfinaidd, ledled Ynysoedd Prydain ac ef a greodd y ‘Deffroad Mawr’ yn y trefedigaethau Americanaidd.
Cynhyrchodd Whitefield llawer iawn o ohebiaeth yn ystod ei fywyd cyhoeddus; ceir mwy na 2,250 o eitemau unigol sy’n golygu taw hwn yw un o’r casgliadau epistolaidd mwyaf nodedig o'r cyfnod.
Esbonia Dr Jones; “Gadawyd gohebiaeth Whitfield heb ei chyffwrdd i raddau helaeth, ers i nifer o lythyrau a olygwyd yn drwm, ymddangos fel rhan o argraffiad chwe chyfrol Works of George Whitefield yn fuan ar ôl ei farwolaeth.
“Gwasanaethwyd Whitefield yn arbennig o wael gan y rhai sydd wedi dymuno cynnal y cof amdano neu ei arddel fel esiampl i’w ddilyn. Rhannol yw ein deall o’r gwir Whitefield.”
Bydd y grant hael hwn yn galluogi Dr Jones i gynhyrchu argraffiad cyflawn o lythyrau Whitefield am y tro cyntaf.
Mae'r casgliad yn cynnwys llythyrau rhwng Whitefield a llawer o'r ffigurau mwyaf blaenllaw ei ddydd, gan gynnwys John a Charles Wesley, Philip Doddridge, Howel Harris, Iarlles Huntingdon, yr arweinydd Morafaidd o’r Almaen Iarll Zinzendorf, a’r Americanwyr Jonathan Edwards a Benjamin Franklin, yn ogystal â llythyrau personol gan efengylwyr sydd fel arall yn anhysbys, gan gynnwys llawer o fenywod.
Yn ôl Dr Jones; “Mae'r llythyrau hyn yn rhoi cipolwg rhyfeddol ar natur ysbrydolrwydd efengylaidd cynnar ac yn caniatáu i haneswyr adeiladu gwell dealltwriaeth ac aml-haenog o efengylyddiaeth gynnar.”
Drwy gyfrwng cynhadledd ym Mhrifysgol Rhydychen, bydd y prosiect yn cynnig ailasesiad sylweddol o fywyd Whitefield a'r mudiad efengylaidd cynnar ar ffurf cyfrol o ysgrifau beirniadol a bywgraffiad newydd o bwys o Whitefield ei hun.
Tra bod y gwaith hwn yn mynd i geisio astudio bywyd Whitfield a’r mudiadau efengylaidd a Methodistaidd yn bennaf, bydd hefyd yn taflu goleuni sylweddol ar y berthynas rhwng Prydain ac America yn negawdau olaf y cyfnod trefedigaethol, twf syniadaeth ‘ddemocrataidd’ ac egalitaraidd ar drothwy’r Chwyldro Americanaidd, yn ogystal ag esblygiad agweddau tuag at hil, dosbarth a rhyw.
Ymddiriedolaeth Leverhulme
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme gan Ewyllys William Hesketh Lever, sefydlydd Lever Brothers. Ers 1925 mae’r Ymddiriedolaeth wedi darparu grantiau a ysgoloriaethau ymchwil ac addysg. Heddiw, hi yw un o brif ddarparwyr cyllid ymchwil pob pwnc yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae’n dosbarthu mwy na £60m yn flynyddol. Am ragor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth ewch i www.leverhulme.ac.uk