Neil Brand ym Mhrifysgol Aberystwyth
Neil Brand
28 Mawrth 2014
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau unigryw yn Aberystwyth dros y penwythnos – 28-30 Mawrth 2014.
Mae Neil Brand, un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth yn gyfeilydd ffilmiau tawel, yn gyfansoddwr cerddoriaeth gerddorfaol ar gyfer ffilmiau tawel, yn awdurdod ar gerddoriaeth ffilm, yn ddarlledwr BBC ar y radio a'r teledu, ac yn ddramodydd hefyd.
Cafodd y gyfres deledu o’i waith Sound of Cinema: The Music that made the Movies ei darlledu ar BBC4 yn yr hydref diwethaf (www.bbc.co.uk/programmes/b03b51db).
Adwaenir ef fel y prif awdurdod a'r prif gyfansoddwr ym maes rhyngwladol cerddoriaeth ffilmiau tawel. Mae ef wedi perfformio ym mhedwar ban byd, gan gynnwys perfformiadau awyr agored i gynulleidfaoedd o 5,000 a rhagor - o'r Piazza Maggiore ym Mologna i Sgwar Trafalgar. Cyfansoddodd sgorau niferus ar gyfer DVDs y Sefydliad Ffilmiau Prydeinig (British Film Institute).
Cafodd ei gyflwyno’n Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth yn 2013.
Y penwythnos hwn (28-30 Mawrth) mae’n bleser gan Darlithiau Gregynog Prifysgol Aberystywth ac Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol gyflwyno:
Nos Wener 28 Mawrth, 6 yr hwyr, Yr Hen Goleg YN RHAD AC AM DDIM
The Silent Pianist Speaks, darlith a pherfformiad. Derbyniad gwin yn rhad ac am ddim i ddilyn.
Nos Sadwrn 29 Mawrth, 6 yr hwyr, Theatr Canolfan y Celfyddydau YN RHAD AC AM DDIM
Bydd Neil Brand yn sgwrsio am ei gyfnod yn Aberystwyth gyda'r Athro Robert Meyrick a hefyd yn trafod ffilmiau tawel, cerddoriaeth ffilm ac Alfred Hitchcock gyda Dr Harry Heuser.
Nos Sadwrn 29 Mawrth, 8 yr hwyr, Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau, £9
Bydd cerddorfa Philomusica Aberystwyth, dan arweiniad Dr David Russell Hulme, yn perfformio sgôr arobryn Neil Brand i glasur tawel Alfred Hitchcock, Blackmail (1929). Bydd y cyngerdd yn agor gyda cherddoriaeth o ffilmiau eraill, sef Lawrence of Arabia, The Sea Hawk, Rebecca, a The Big Country (http://www.aberystwythartscentre.co.uk/classical-music/philomusica-aberystwyth-2).
Dydd Sul, 30 Mawrth, 7 yr hwyr, Sinema Canolfan y Celfyddydau, £7.50
Cynhelir perfformiad byw. Bydd Neil Brand wrth y piano yn cyfeilio ffilmiau byrion gan Laurel a Hardy: Big Business a The Finishing Touch. Estynnir croeso i'r gynulleidfa aros ymlaen ar gyfer dangosiad YN RHAD AC AM DDIM o ddrama deledu Neil i'r BBC, Stan. (http://www.aberystwythartscentre.co.uk/film/neil-brand-evening).
Cewch ragflas o waith Neil mewn pecyn ar YouTube a baratowyd a gyfer Seremoni Raddio 2013: http://www.youtube.com/watch?v=vl_qtCVEkKA.
A chofiwch hefyd am wefan Neil: http://www.neilbrand.com
AU8914