Prydain a dechreuadau’r Alban
Yr Athro Dauvit Broun, FRSE
24 Mawrth 2014
Bydd yr Athro Dauvit Broun, FRSE, Athro Hanes yr Alban ym Mhrifysgol Glasgow yn darlithio ar “Prydain a dechreuadau’r Alban” ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mawrth 25 Mawrth 2014.
Cynhelir y ddarlith, Darlith Goffa Syr John Rhys Yr Academi Brydeinig, am 6 yr hwyr ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Campws Penglais.
Dros y blynyddoedd cododd nifer o ysgolheigion amheuon ynglŷn â’r syniad fod yr Alban fel gwlad wedi dod i fodolaeth o ganlyniad i uniad rhwng y Pictiaid a’r Scotiaid dan arweiniad Cinead mhac Ailpín.
Yn y ddarlith hon bydd yr Athro Dauvit Broun yn archwilio’r ail-feddwl diweddar ynglŷn â dechreuadau’r Alban drwy drafod y syniad o Brydain, cysylltiadau â Lloegr, y modd y daeth yr Alban i’r golwg fel gwlad yn y drydedd ganrif ar ddeg a dechreuadau teyrnas yr Alban ei hun.
Bydd yr Athro Broun yn edrych hefyd ar oblygiadau'r dehongliad newydd hwn ar y modd y synnir am berthynas yr Alban â Phrydain heddiw a hefyd a yw’r dehongliad hwn ar ddechreuadau’r Alban yn berthnasol ar gyfer Refferendwm yr Alban ar 18 Medi 2014.
Mae Dauvit Broun wedi bod yn dysgu Hanes yr Alban o’r seithfed ganrif hyd y bedwaredd ganrif ar ddeg ym Mhrifysgol Glasgow ers 1990.
Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys The Irish Identity of the Kingdom of the Scots in the Twelfth and Thirteenth Centuries (1999) a Scottish Independence and the Idea of Britain from the Picts to Alexander III (2007).
Fe’i penodwyd yn Athro Hanes yr Alban yn Glasgow yn 2009.
Mae’r ddarlith hon yn agored i aelodau’r cyhoedd a chaiff ei thraddodi yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.
AU12114