Gair gan y pianydd mud
Neil Brand
21 Mawrth 2014
Bydd Neil Brand, Cymrawd Prifysgol Aberystwyth, awdur, cyfansoddwr a chyfeilydd ffilmiau mud yn cyflwyno cyflwyniad unigryw a chofiadwy ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 28 Mawrth 2014.
Mae “The Silent Pianist Speaks” yn rhan o Gyfres Darlithoedd Cyhoeddus Gregynog 2013/14 a bydd yn dechrau 6.00yh yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth.
Ymddangosodd cyflwyniad Neil yng ngŵyl yr Edinburgh Fringe Festival ac mae’n defnyddio clipiau o’r eiliadau mwyaf yn hanes sinema mud i ddarlunio ei yrfa a’r lle arbennig sydd i gerddoriaeth gyda ffilmiau mud.
Hyfforddodd Neil, sy’n Athro Ymweld yn y Coleg Cerdd Brenhinol, fel actor yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Bu’n cyfeilio i ffilmiau mud am dros 25 mlynedd, gan berfformio’n rheolaidd yn y Theatr Ffilm Genedlaethol ac mewn gwyliau ffilm yn rhyngwladol.
Cyfansoddodd Neil ar gyfer ffilm, teledu a radio ac mae’n ddramodydd radio a theledu ar gyfer y BBC yn ogystal â bod yn ddarlledwr cyson.
Fe’i disgrifwyd fel ‘prif gyfeilydd y ffilmiau mud’, mae’n un o’r gorau yn y byd am gyfeilio byrfyfyr i ffilmiau mud. Ef hefyd a ysgrifenoedd ac a gyflwyno gyfres dair rhan BBC4, “Sound of Cinema – the Music that made the Movies”.
Mae wedi cyfansoddu cerddoriaeth a sgorau ar gyfer nifer o raglenni dogfen teledu gan gynnwys Silent Clowns, Silent Britain a Great Britons Paul Merton’s a darnau ar gyfer mwy na 50 o ddramau ar gyfer Radio 4 gan gynnwys War and Peace, The Box of Delights, nifer o ddrama Shakerspeare Collection clywedol y BBC a A Town Like Alice, a enillodd wwobr Sony.
Ystyrir Neil gyda pharch fel cyfansoddwr dramâu radio gan gynnwys Stan a enwebwyd am wobr Sony, drama a addaswyd ganddo y llynedd yn llwyddiannus ar gyfer teledu BBC4.
Mae’r perfformiad yn Rhan o benwythnos ‘Cerddoriaeth a Byd y Ffilm” yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol, sydd hefyd yn cynnwys dangosiad o ffilm Hitchcock “Blackmail”, ynghyd â sgôr gerddorfaol newydd gan Neil fydd yn cael ei chwarae gan Philomusica Aberystwyth.
Hyn i gyd a mwy o 28-30 Mawrth.
AU8914