Breuddwyd gwrach neu’r ateb i bopeth?
Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
19 Mawrth 2014
Bydd Desmond Bowen CB CMG, aelod o Fwrdd Ymgynghorol Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Faterion Diarfogi, yn siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory, ddydd Iau 20 Mawrth 2014.
Bydd y cyn was sifil, a fu’n canolbwyntio ar faterion yn ymwneud ag amddiffyn a diogelwch rhyngwladol, yn trafod rheoli arfau a diarfogi gan werthuso’u cyfraniad tuag at heddwch a diogelwch rhyngwladol a’r hyn sydd yn symbylu cenhedloedd i ddod i gytundeb ynglŷn â rheoli arfau.
Cynhelir y ddarlith “Arms Control and Disarmament: Pipedream or Panacea?” ym Mhrif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais a bydd yn dechrau am 6.30 yr hwyr.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd.
Cefndir
Yn 2013, daeth diarfogi i’r penawdau pan gytunodd Syria i gael gwared o’i harfau cemegol ac enillodd yr OPCW wobr heddwch Nobel.
Yn gyffredinol, mae cadw rheolaeth ar arfau yn fater sy’n achosi llai o sbloet. Sut y dylasem bwyso a mesur cyfraniad hyn tuag at heddwch a diogelwch rhyngwladol, ac a ydym yn deall yr hyn sy’n symbylu cenhedloedd i ddod i gytundeb ynglŷn â rheoli arfau? Ai breuddwyd gwrach neu ateb i bopeth yw cytundebau o’r fath?
Cwblhaodd Desmond Bowen ei yrfa yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Polisi i Weinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Gyfunol yn 2008 a bellach ef yw Ymgynghorydd Staff (rhan amser) y gwasanaethau cudd-wybodaeth a diogelwch.
AU12214